Llong Ymchwil y Prince Madog

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:40, 11 Chwefror 2020

A dwi yn ddiolchgar iawn am ymateb y Llywodraeth pan wnes i dynnu sylw Gweinidogion at y peryg y gallai capasiti y Prince Madog i wneud gwaith ymchwil morol gael ei golli oherwydd y pryderon am ddyfodol y llong, sydd â'i chartref, wrth gwrs, ym Mhorthaethwy, yn fy etholaeth i. Mae'r cytundeb 100 niwrnod o waith yna yn sicr wedi bod yn allweddol o ran sicrhau dyfodol y llong yn y byrdymor, ond mi hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at y ffaith bod 2021 ddim yn bell iawn i ffwrdd erbyn hyn, a bod angen rŵan i weithio i sicrhau dyfodol hirdymor.

Mi hoffwn i wneud apêl yn fan hyn am addewid gan y Llywodraeth i ymrwymo rŵan i drafodaethau ynglŷn ag ymestyn y cytundeb, a all wneud gwaith ymchwil ecolegol, ynni, bwyd allweddol am flynyddoedd i ddod, achos mae'r cloc yn tician ac mae yna rôl allweddol i'r Llywodraeth yn sicrhau'r dyfodol hirdymor yna.