Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Chwefror 2020.
Nid ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd trwy gael mwy o awyrennau yn yr awyr yw'r cyfle yr wyf i wedi ei weld erioed i faes awyr Caerdydd, Llywydd, ond dargyfeirio teithwyr i Gaerdydd sy'n gorfod teithio y tu hwnt i Gymru ar hyn o bryd, gan ychwanegu at yr ôl-troed carbon wrth iddyn nhw wneud hynny. Ceir cyfleoedd gwirioneddol, os gwnaiff Llywodraeth y DU weithio gyda ni ar yr agenda hon, i alluogi pobl sy'n teithio i Fryste ar hyn o bryd, ond hefyd ymhellach i ffwrdd ar gyfer gwasanaethau teithiau hir o Birmingham neu Fanceinion neu Heathrow, gael y gwasanaethau hynny yma yng Nghymru, nid i ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd, ond i atal y teithiau sydd, ar hyn o bryd, yn ychwanegu at y carbon yr ydym ni i gyd yn ei gynhyrchu.