Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 11 Chwefror 2020.
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy'n gyfrifol am y ddau faes yr ydych chi wedi gofyn am ddatganiad arnyn nhw, yn amlwg wedi bod yma i glywed eich pryderon chi, ac mae hi wedi gofyn i mi ofyn i chi ysgrifennu ati, ynglŷn â mater celfyddydau ar y stryd i ddathlu a hyrwyddo rhaglen Bang yn ogystal â mater rheoli drwy orfodaeth. Rydych chi'n gyfarwydd â'r gwaith sy'n cael ei wneud o ran angen blaenoriaethol, ac rwy'n deall y bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog yn fuan, ond pe byddech chi'n anfon llythyr at y Gweinidog, fe fydd hi'n gallu ymateb yn fanylach.