2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:59, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y coronafeirws, sy'n ddatganiad defnyddiol iawn. Mae'n cyfeirio at yr angen i barhau i adolygu ein deddfwriaeth yng Nghymru, rwy'n credu yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth gyda'r diben o liniaru unrhyw effeithiau o'r coronafeirws ac edrych ar opsiynau triniaeth—gorfodi ynysu gyda chymorth, er enghraifft, yn Lloegr.

Rwy'n cydnabod y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyfleu yn rheolaidd, datganiadau ysgrifenedig, gan y Gweinidog Iechyd, a hefyd, rwy'n credu, yr wybodaeth ddiweddaraf i ACau gan y Prif Swyddog Meddygol yn hwyrach heddiw. Mae hynny i gyd yn arfer da. Efallai y byddai modd inni hefyd ystyried datganiadau llafar ar y sefyllfa, gan fod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym a bod ganddi'r potensial i fod yn eithriadol o ddifrifol. Gwyddom fod llawer o alwadau ar y GIG eisoes, yn enwedig dros gyfnod y gaeaf. Os caiff maint llawn haint y coronafeirws ei wireddu, ac, yn amlwg, efallai na chaiff ei wireddu i'r graddau llawnaf, ond os byddwn ni'n mynd yn agos at hynny, yna bydd galwadau ar y gwasanaeth iechyd. Rwy'n gwybod bod trafodaethau ar y gweill a chredaf fod y Gweinidog yng nghyfarfod ystafelloedd briffio Swyddfa'r Cabinet— COBRA—yr wythnos hon. Felly, pe byddai modd inni gael diweddariadau parhaus ac adroddiadau llafar i'r Siambr hon wrth i'r sefyllfa ddatblygu, rwy'n credu y byddem ni, bob un ohonom ni Aelodau'r Cynulliad, yn cael hynny'n ddefnyddiol iawn o ran gohebu â'n hetholwyr a fydd, yn ddealladwy, yn mynd yn fwy pryderus ac yn poeni wrth i'r newyddion dreiddio yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Yn ail, i newid trywydd, metro de Cymru: mae'n rhaid bod datblygu'r metro yn rhan allweddol o strategaeth y Llywodraeth i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a chael pobl oddi ar y ffyrdd. Rydym ni'n gwybod eich bod chi, yn eich swyddogaeth arall, wedi bod yn cyflwyno cyllideb werdd, ac mae ymdrin â'r argyfwng hinsawdd yn allweddol i'r gyllideb honno, felly mae'n rhaid i'r metro a chyllid ar gyfer y Metro fod yn bwysig dros y blynyddoedd i ddod. Ond a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Trafnidiaeth ynghylch ble'r ydym ni arni o ran y metro? Yn fy ardal i, gwn fod nifer o bryderon wedi'u codi gyda mi'n ddiweddar. Er enghraifft, yn gyntaf, roedd tref Trefynwy oddi ar fap y metro, yna roedd ar y map metro, yna roedd yn ôl arni—roedd nifer o fapiau'n mynd o gwmpas, rhai'n swyddogol, rhai ddim. Felly, tybed a gawn ni eglurder gan y Gweinidog a  Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut olwg sydd ar y map ar hyn o bryd?

Rwy'n credu bod y metro'n syniad gwych; rwy'n credu ein bod ni i gyd yn unedig yn credu hynny. Ond, yn amlwg, mewn ardal fel y De-ddwyrain, os bydd pobl sy'n byw ar gyrion yr ardaloedd gwledig, fel fy etholaeth i, yn teimlo eu bod yn mynd i gael eu hepgor o'r map hwnnw ymhellach i lawr y lein, yna nid yw hynny'n tawelu eu meddyliau. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i dynnu pobl oddi ar y ffyrdd a'u cael i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel rwy'n siŵr y byddai eich prif amcan yn y dyfodol i ymdrin â newid hinsawdd.