Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 11 Chwefror 2020.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) i'r Senedd. Mae hwn yn Fil pwysig, ac yn Fil anarferol yn yr ystyr y bydd yn diwygio Deddf gan y Senedd, sef Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, na ddaeth eto i rym. Fe fydd gennyf i ragor i'w ddweud ynglŷn â hynny mewn ychydig, ond yn gyntaf, fe hoffwn i gymryd ychydig funudau i egluro'r hyn y mae'r Bil hwn yn ceisio ei gyflawni, a sut y bydd yn newid y berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid, neu 'ddeiliaid contract' fel y cânt eu disgrifio yn Neddf 2016.
Fe fydd y Bil hwn yn diwygio Deddf 2016 i roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i ddeiliaid contract sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat ac a fydd, pan ddaw darpariaethau Ddeddf 2016 i rym, yn gwneud hynny trwy gontractau meddiannaeth safonol gyda'u landlord. Y contractau safonol hyn fydd y math o gontract rhagosodedig yn y sector, gan ddisodli tenantiaethau byrddaliol sicr a wnaed o dan Ddeddf Tai 1988.
Fe fydd y Bil yn golygu mwy o sicrwydd meddiannaeth o dan gontract safonol cyfnodol yn y ffyrdd canlynol: fe fydd yn ymestyn y cyfnod rhybudd gofynnol ar gyfer hysbysiad gan landlord a roddir o dan adran 173 o Ddeddf 2016, sy'n debyg i adran 21 y Ddeddf Tai 1988, o ddau fis i chwe mis; fe fydd yn cyfyngu ar roi hysbysiad o'r fath tan o leiaf chwe mis ar ôl dyddiad y feddiannaeth ar y contract—ar hyn o bryd mae Deddf 2016 yn nodi hyn yn bedwar mis. Ynghyd â'r cyfnod rhybudd estynedig, fe fydd hyn yn dyblu, o chwe mis i flwyddyn, yr isafswm cyfnod meddiannaeth ar gyfer rhywun nad yw'n torri ei gontract.
Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn atal landlord rhag cyflwyno hysbysiad newydd o dan adran 173 tan o leiaf chwe mis wedi i'r hysbysiad blaenorol yn ôl adran 173 ddod i ben neu gael ei dynnu'n ôl. Fe wneir hyn ar gyfer sicrhau nad yw landlordiaid yn cael eu temtio i gyhoeddi sawl hysbysiad adran 173 'rhag ofn', a fyddai'n niweidiol i ymdeimlad deiliad y contract o ddiogelwch a sicrwydd. Serch hynny, i gydnabod y ffaith bod landlordiaid, ar brydiau, yn gwneud camgymeriadau technegol wrth gyflwyno hysbysiadau, mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi landlord i dynnu hysbysiad yn ôl a'i ailgyhoeddi cyn pen 14 diwrnod.
Fe fydd y Bil yn gwneud nifer o newidiadau hefyd i'r ffordd y mae contractau safonol cyfnod penodol yn gweithio fel na chaiff landlordiaid eu temtio i ddefnyddio contractau cyfnod penodol fel ffordd o osgoi'r diogelwch ychwanegol a gaiff ei ddarparu o dan gontractau safonol cyfnodol. Fe fydd yn dileu'r gallu a fyddai gan landlord fel arall i roi hysbysiad yn ystod contract safonol cyfnod penodol gan ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract adael ar ddiwedd y cyfnod penodol. Yn hytrach na hynny, fe fydd yn ofynnol i landlord gyflwyno hysbysiad adran 173 i derfynu'r contract safonol cyfnodol a fydd yn codi'n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod penodol. Fe fyddai'r hysbysiad adran 173 hwnnw, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i'r cyfnod rhybudd estynedig o chwe mis, heb unrhyw ystyriaeth i hyd y cyfnod gwreiddiol yn y tymor penodedig.
Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn atal cynnwys cymal terfynu gan landlord mewn contractau safonol cyfnod penodol o lai na 24 mis, ac yn atal gweithrediad unrhyw gymal terfynu cyn mis 18 o gontract cyfnod penodol. Unwaith eto, fe fydd hyn yn amodol ar gyfnod rhybudd o chwe mis.
I sicrhau nad oes yna unrhyw fylchau y gallai landlordiaid diegwyddor geisio manteisio arnyn nhw, fe fyddwn hefyd yn dileu'r trefniant o dan Ddeddf 2016, sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i landlord geisio meddiant os na fydd deiliad contract yn cadarnhau, o fewn dau fis o'i hysbysu, ei fod yn fodlon ag amrywiad a wnaethpwyd i amod yn ei gontract. Yn ogystal â hynny, defnyddir pŵer i wneud rheoliadau i gyfyngu ar y defnydd o amod, sy'n caniatáu i ddeiliad y contract gael ei wahardd o'r eiddo am gyfnodau penodol, er enghraifft, i gontractau ar gyfer llety myfyrwyr a osodir gan sefydliadau addysg uwch.
Ac yn olaf, mae'r Bil yn gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016 hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys dileu'r elfen oddrychol yn y prawf sy'n pennu a yw addasiad i amod sylfaenol mewn contract yn gwella sefyllfa deiliad y contract. Fe wneir hyn i atal landlordiaid diegwyddor rhag ceisio tanseilio sicrwydd meddiannaeth drwy roi pwysau ar ddeiliaid contractau i gytuno y byddai cyfnod rhybudd o lai na chwe mis, er enghraifft, er eu budd nhw.
Mae'r Bil yn cynnig rhyddhad hefyd o ran mathau arbennig o gontractau penodol iawn, fel contractau safonol ymddygiad gwaharddedig, deiliadaeth gwasanaeth neu lety â chymorth, lle derbynnir y ceir cyfnodau byrrach o rybudd ac mae angen mwy o sicrwydd ynghylch dyddiadau dod â chontractau i ben. Caiff y rhain eu rheoli'n gaeth iawn yn y Bil i atal unrhyw gamddefnydd posibl, gan alluogi landlordiaid cymdeithasol, yn ogystal â chyflogwyr sy'n cyflawni swyddogaeth landlord o ran rhai o'u gweithwyr nhw, i gael y sicrwydd sydd ei angen arnynt mewn amgylchiadau arbennig.
Gwnes fy natganiad blaenorol i'r Aelodau ynglŷn â'r Bil hwn yn ôl ym mis Medi, pan roddais grynodeb byr o'n cynigion ni fel yr oedden nhw'r adeg honno a'r adborth cychwynnol o'r ymarfer ymgynghori a ddaeth i ben yn ddiweddar. Fe wyddoch chi o'r datganiad a gyhoeddais i fis diwethaf fod yr ymateb terfynol i'r ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi ers hynny, ac ni chafwyd cytundeb cyffredinol i'r holl newidiadau yr ydym yn ceisio eu gwneud. Mae hynny i'w ddisgwyl. Ond nid yw'r Llywodraeth hon yn ymddiheuro am gyflwyno deddfwriaeth a fydd, fel rhan o'n rhaglen ehangach o gefnogi sector proffesiynol a reoleiddir yn dda ac sy'n cynnig cartrefi o ansawdd uchel i'r rhai sy'n dymuno rhentu, yn creu amodau gwell o ran diogelwch a sicrwydd i'r nifer gynyddol o'n dinasyddion ni sy'n ddibynnol ar y sector rhentu preifat am eu cartrefi.
Yn gynharach, fe soniais fod y Bil hwn yn anarferol am ei fod yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 na ddaeth eto i rym. Mae'r rhesymau am yr oedi wrth weithredu Deddf 2016 yn gymhleth. Ond rwy'n hyderus erbyn hyn fod gennym y sicrwydd sydd ei angen arnom gan Lywodraeth y DU y bydd y seilwaith angenrheidiol ar waith i'n galluogi i roi'r trefniadau newydd ar waith cyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Fe fydd Deddf 2016, pan gaiff ei rhoi ar waith, yn dod â nifer o fuddion ehangach sylweddol i'r rhai sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Fe ysgrifennais at bob Aelod ym mis Hydref y llynedd i amlinellu'r manteision hyn, ac rwyf wedi ailanfon y llythyr hwnnw gan ei fod yn rhoi mwy o fanylion nag y mae amser yn ei ganiatáu nawr.
Fe fydd y Bil hwn, os caiff ei basio, yn ychwanegu budd sylweddol arall drwy sicrhau na ellir cyflwyno hysbysiad adennill meddiant, pan nad oes unrhyw achos o dorri contract, am y chwe mis cyntaf o feddiannaeth, a phan geisir meddiant, gan roi chwe mis o hysbysiad i ddeiliad y contract. Fe fydd hyn yn rhoi amser gwerthfawr i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu meddiant o dan adran 173, a'r sefydliadau a'r asiantaethau sy'n eu cefnogi nhw, i ddod o hyd i gartref newydd sy'n addas iddyn nhw a gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer trosglwyddo'n ddidrafferth i'w cartref newydd.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn modd adeiladol gyda chi a'n holl randdeiliaid ni yn ystod y misoedd nesaf, wrth i'r Bil hwn wneud ei ffordd drwy'r broses graffu. Diolch.