Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 11 Chwefror 2020.
Fel Llywodraeth, fe wnaethom ni ymrwymiad i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Cadarnhawyd pwysigrwydd mynd i'r afael â'r materion hyn hefyd ym mis Rhagfyr 2017 yn yr adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Canolbwyntiodd yr adroddiad hwnnw ar brofiadau pobl hŷn yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod y gall llawer o bobl eraill hefyd brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Roedd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad hwnnw ym mis Chwefror 2018 yn dangos cefnogaeth drawsbleidiol glir ar gyfer datblygu strategaeth i Gymru. Mae'n bleser gennyf hysbysu'r Aelodau y cyhoeddwyd 'Cymunedau Cysylltiedig: strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach' yn gynharach heddiw.
Y strategaeth hon yw'r cam cyntaf i'n helpu i newid sut rydym ni'n meddwl am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae'n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gysylltiedig—un lle mae pawb yn cael y cyfle i ddatblygu cydberthnasau cymdeithasol ystyrlon a lle caiff pobl eu cefnogi ar yr adegau tyngedfennol hynny mewn bywyd pan fyddant fwyaf agored i niwed, a hefyd yn un lle mae pobl yn teimlo y gallant ddweud, 'rwy'n unig', a pheidio â theimlo cywilydd na stigma.
Mae goblygiadau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn llwm. Mae ymchwil wedi dangos y gallant gael effaith ar ein hiechyd corfforol, gyda chysylltiadau â pherygl cynyddol o glefyd coronaidd y galon, strôc a phwysedd gwaed uchel. Gallant hefyd effeithio ar ein hiechyd meddwl, gan gynyddu'r risg o iselder, diffyg hunan-barch a straen. Mae goblygiadau economaidd i'w hystyried hefyd. Er enghraifft, mae Prosiect Eden yn amcangyfrif y gallai cymunedau digyswllt fod yn costio tua £2.6 biliwn y flwyddyn i ni yng Nghymru drwy fwy o alw ar wasanaethau iechyd a phlismona, a chost i gyflogwyr oherwydd straen a diffyg hunan-barch.
Mae ffigurau diweddar wedi dangos graddau'r materion hyn. Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 fod 16 y cant o'r boblogaeth dros 16 oed yn dweud eu bod yn teimlo'n unig, gyda'r rhai 16 i 24 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na'r rheini sy'n 75 oed neu'n hŷn. Fodd bynnag, gwyddom y gall unrhyw un o unrhyw oedran ac o unrhyw gefndir brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, o'r person ifanc sy'n symud o'i gartref i ddechrau yn y brifysgol i rywun â chyflwr iechyd hirdymor, neu berson hŷn sy'n gofalu am anwylyd. Yn wir, mae'n debyg ein bod i gyd wedi profi'r teimladau hyn ar ryw adeg yn ein bywydau. Pan fyddan nhw'n dod yn rhai tymor hir ac yn bwrw gwreiddiau, dyna pryd maen nhw'n dod yn broblemus.
Yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddulliau sy'n lleihau, neu yn atal y risg o unigrwydd a/neu ynysigrwydd cymdeithasol i bobl o bob oedran, neu sy'n ymyrryd yn gynnar cyn i'r teimladau hyn ymwreiddio. Mae'n cynnwys nifer o bolisïau ac ymrwymiadau cynhwysfawr i fod o fudd i gymdeithas gyfan ac i geisio darparu'r sail i bobl gael mwy o gyfleoedd i gael cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon. Mae hefyd yn dynodi'r bobl hynny sydd mewn mwy o berygl o brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a'r angen i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r materion hyn fel bod pobl yn teimlo eu bod mewn sefyllfa well i siarad am eu teimladau.
Mae'n sefydlu pedair blaenoriaeth ar gyfer gweithredu: cynyddu cyfleoedd i bobl gysylltu â'i gilydd; gwella'r seilwaith cymunedol i helpu pobl i ddod at ei gilydd; sefydlu a chynnal cymunedau cydlynus a chefnogol; ac yn olaf codi ymwybyddiaeth a lleihau stigma. Seiliwyd y blaenoriaethau hyn ar ein hymgynghoriad cyhoeddus, ein digwyddiadau ymgynghori ac ar ymgysylltu sylweddol â phob rhan o'r Llywodraeth ac â rhanddeiliaid allanol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae'n gwbl glir o'r ymateb i'r ymgynghoriad na all y Llywodraeth ddatrys y materion hyn ar ei phen ei hun, er y gall feithrin yr amodau priodol er mwyn i gysylltiadau mewn cymunedau ffynnu. Mae'r strategaeth felly'n galw ar i bob rhan o gymdeithas wneud ei rhan. Mae angen i ni newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn gweithredu ar unigrwydd ac ynysigrwydd yn y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau ac fel unigolion er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn.
I gefnogi hyn, rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau am ein cynllun i lansio, yn ddiweddarach eleni, cronfa unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol dros dair blynedd gwerth £1.4 miliwn. Bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau yn y gymuned i ddarparu ac arbrofi gyda, neu gynyddu, dulliau arloesol o fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. A byddwn yn defnyddio'r prosiectau hyn i helpu i gynyddu ein gwybodaeth a chyfrannu at y sail dystiolaeth.
Mae ein gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon wedi dangos yn glir bod gan bob rhan o'r Llywodraeth ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd. Rydym ni eisiau cryfhau ein dull trawslywodraethol o weithio a mynd ati i sicrhau ein bod yn ystyried y materion hyn wrth lunio polisïau. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, byddwn yn sefydlu grŵp cynghori trawslywodraethol, a fydd yn cynnwys partneriaid allanol hefyd, i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r strategaeth, mynd i'r afael â materion sy'n dod i'r amlwg ac ystyried beth arall y gellir ei wneud. Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd ynglŷn â'r cynnydd o ran cyflawni ein hymrwymiadau. Gobeithio y bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar y gwaith rhagorol rwyf yn gwybod sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru ac yn gymorth i'n symud ymlaen. Dim ond y dechrau yw hyn; dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, rydym ni eisiau cynyddu ein dealltwriaeth o unigrwydd ac ynysigrwydd, ymateb yn well iddynt a sicrhau ein bod yn gwneud popeth angenrheidiol i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac i Gymru fwy cysylltiedig, ac edrychaf ymlaen at roi'r diweddaraf i'r Aelodau wrth i ni wneud cynnydd i gyflawni hyn.