Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 11 Chwefror 2020.
Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad yma heddiw. Mae tua 29 y cant o'r boblogaeth yn dweud eu bod yn teimlo'n unig yn gymdeithasol, mae 91,000 o bobl yn teimlo'n unig yn gyson ac mae'r sefyllfa ar ei gwaethaf ymhlith ein pobl hŷn. Mae dros hanner y bobl rhwng 60 a 74, ac ychydig dan hanner y bobl dros 75 oed, yn dweud eu bod yn teimlo'n unig. Mae hynny'n eithaf trist, mewn gwirionedd, onid yw e? Mae unigrwydd yn gysylltiedig â phroblemau cysgu, ymateb yn annaturiol i straen, pwysedd gwaed uchel, ansawdd bywyd gwael, eiddilwch, iselder a mwy o berygl o drawiad ar y galon, strôc, iselder a dementia. Yn wir, mae Age UK wedi dweud y gall unigrwydd fod yr un mor niweidiol i'n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd.
Nawr, fel y dywedodd y comisiynydd pobl hŷn yn yr adroddiad 'Cyflwr y Genedl', mae Cymru'n llithro i fod ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Cyflwynodd Llywodraeth y DU Weinidog dros unigrwydd ym mis Ionawr 2018. Lansiodd yr Alban ei strategaeth unigrwydd ym mis Rhagfyr 2018. Ac er ein bod yn croesawu cyhoeddi'r strategaeth heddiw, byddwn i'n gwerthfawrogi rheswm, mewn gwirionedd, pam fu cymaint o oedi ar yr un yma yng Nghymru.
Hoffwn ddweud, serch hynny, fy mod yn cytuno â chi mai dim ond y dechrau yw'r strategaeth. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn amcangyfrif y gallai pob person hŷn sydd angen gwasanaethau o ganlyniad i unigrwydd ac ynysigrwydd gostio £12,000 y pen dros y 15 mlynedd nesaf. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y strategaeth yn cael ei chefnogi gan gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gwerth £1.4 miliwn a chronfa cyngor sengl newydd o £8.4 miliwn.
Un cwestiwn sydd gennyf i chi, Gweinidog, sef hyn: gwyddom y gellir helpu i drechu ynysigrwydd cymdeithasol pan fo pobl yn gallu symud o gwmpas, yn gallu dal bws, i fynd i weld siopau mewn tref arall, i fynd i weld eu meddyg, ac mae'r gwasanaeth bws cymunedol yn hanfodol iawn, ac eto, yng Nghymru, rydym ni wedi gweld dileu cynifer o'n gwasanaethau bysiau cymunedol, felly tybed beth yr ydych chi'n ei wneud i weithio gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy i weld sut y gallwn ni mewn gwirionedd bwysleisio'r ffaith nad yw cael gwared ar rywbeth fel yna yn cyfrannu o gwbl at yr agenda atal ac ymyrryd. Mae'n wirion ac nid yw'n fenter sy'n gosteffeithiol. Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod tystiolaeth gref i'r dulliau newydd, arloesol y byddwch yn buddsoddi ynddynt i sicrhau eu bod yn llwyddo?
Rwy'n cytuno â'r pedair blaenoriaeth, ond mae gennyf rai cwestiynau am yr ymrwymiadau allweddol. Blaenoriaeth 3, mae angen system iechyd a gofal cymdeithasol ar bobl sy'n darparu lles ac ymgysylltu â'r gymuned: nid oes ond rhaid inni edrych ar fy mwrdd iechyd fy hun i weld sut, mewn rhai ffyrdd—. Rwy'n gwybod, pobl sy'n dod i mewn drwy ddrws fy swyddfa, yn aml maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u siomi'n fawr iawn gan y gwasanaeth iechyd, ac weithiau, y broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn rhan sylfaenol o'r Ddeddf gofal cymdeithasol a lles y buom ni i gyd yn craffu arni drwy 2014, a ddaeth i rym yn 2016—. Mae llawer o bryderon yn y gymuned o hyd ynglŷn â diffyg cydgysylltu, yn enwedig pan fydd angen i rywun adael yr ysbyty a bod angen iddynt gael eu rhyddhau; yn aml iawn, gall gymryd wythnosau i wneud yr union atgyfeiriad hwnnw fel y gall pobl fynd adref a pheidio â bod yn yr ysbyty.
Dau, a fydd eich strategaeth yn ceisio sicrhau bod mwy o arian ar gael i helpu ymdrin â'r cyfyngiadau ar ymweliadau gofal cartref er mwyn sicrhau bod mwy o amser ar gyfer rhyngweithio rhwng gofalwyr a chleientiaid sy'n gaeth i'r tŷ? Roeddwn yn falch o weld blaenoriaeth 3 yn rhoi sylw amlwg i'r fenter Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Mae Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru wedi ysgrifennu ataf yn datgan eu bod yn credu y gellir gwneud mwy o waith ynghylch yr agenda benodol honno. Rwy'n cytuno, ac roedd y sawl a ymatebodd i'ch ymgynghoriad yn tynnu sylw at y ffaith y dylai'r gwaith pellach i feithrin gallu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall yr amgylchiadau tyngedfenol a'r cymorth effeithiol sydd ar gael fod yn flaenoriaeth allweddol.
Cwestiwn arall: yn ogystal ag archwilio'r potensial ar gyfer datblygu hyfforddiant penodol, pa gamau gweithredu clir y gallwch eu disgrifio heddiw a fydd yn helpu i rymuso gwasanaethau iechyd a staff awdurdodau lleol i gydnabod y swyddogaeth sydd ganddynt o ran cynorthwyo trigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol? Fel y gwyddoch chi, rydych chi wedi dweud o'r blaen fod pobl iau yn debygol iawn o ddweud eu bod yn teimlo'n unig. Tynnodd eich ymgynghoriad sylw at y ffaith bod llawer yn teimlo bod gan ysgolion ran allweddol i'w chwarae. Mae hyn wedi cyfrannu at y strategaeth sydd ger ein bron heddiw, gan gynnwys blaenoriaethau 1 a 4.
Fodd bynnag, galwyd hefyd am gyflwyno sesiynau bugeiliol i gwricwlwm yr ysgol gan ganolbwyntio ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Ar ôl astudio'r maes dysgu iechyd a lles yn y cwricwlwm, credaf y gallai ysgolion ystyried gwneud ambell beth i helpu mynd i'r afael ag unigrwydd. Beth wnewch chi i sicrhau bod pob ysgol yn cynnal sesiynau bugeiliol sy'n canolbwyntio ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol?
Yn olaf, rydych chi'n gywir bod angen dull trawslywodraethol o fynd ati, a hoffwn feddwl, ac mae gennych fy nghefnogaeth yn sicr, y dylai fod yn fenter drawsbleidiol. Rwyf yn pryderu nad yw portffolios eraill o bosib yn cyfrannu at yr agenda gymaint ag yr ydych chi. Byddwch yn sefydlu grŵp cynghori i oruchwylio gweithredu'r strategaeth, felly tybed a ydych chi wedi ystyried gofyn i'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru ymgynghori â'r grŵp ar bob cynnig deddfwriaethol perthnasol a gyflwynir i'r Cynulliad hwn, oherwydd, yn aml iawn, gall y cynigion deddfwriaethol hynny, mewn gwirionedd, er eu bod yn gwneud daioni mewn rhai rhannau, effeithio'n negyddol ar feysydd eraill. Felly, yr hyn yr wyf yn chwilio amdano yw meddylfryd mwy cydgysylltiedig rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r strategaeth benodol hon. Diolch.