Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 11 Chwefror 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am rannu copi o ganllawiau ymarfer y grant cymorth tai cyn ei datganiad heddiw. Nawr, wrth gwrs, ni fyddai bwriadau da gan y Llywodraeth yn golygu fawr ddim oni bai fod y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n helpu i fynd i'r afael â digartrefedd ar lawr gwlad yn cael eu hystyried, felly rwyf yn croesawu'r pwyslais a roddir ar sicrhau bod pawb yn cefnogi'r achos o fynd i'r afael â digartrefedd.
Efallai yr hoffai'r Gweinidog ystyried sut y gall y Llywodraeth bwysleisio'r neges hon, pan fo gennym ni, er enghraifft, gyngor Casnewydd, sydd dan reolaeth y Blaid Lafur, yn hel pobl ddigartref allan o faes parcio lle buont yn aros ac atafaelu eu heiddo prin. Nawr, rwy'n sicr y byddai hi'n gwrthwynebu mesurau o'r fath, felly byddwn yn ei hannog i ystyried beth gellir ei wneud er mwyn sicrhau bod y newid diwylliant hwn yn cael ei adlewyrchu ar bob lefel mewn awdurdodau lleol.
Gwyddom fod digartrefedd yn cynyddu bob blwyddyn. Mae ystadegau ciplun Llywodraeth Cymru yn dangos bod mwy o bobl yn cysgu ar y strydoedd. Mae'r ciplun yn dangos—ac eto, rwy'n siŵr ei bod hi'n gyfarwydd iawn â'r ffigurau—240 o bobl yn cysgu allan dros gyfnod o bythefnos yn 2015, ac mae hynny wedi cynyddu i 313 yn 2016, 345 yn 2017, 347 yn 2018, a 405 yn 2019. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofnodi'r ystadegau hynny, oherwydd mae patrwm clir o gynnydd yna. A gwyddom fod gwir raddfa'r broblem yn debygol o fod yn llawer mwy, oherwydd mae'n ddiarhebol o anodd mesur digartrefedd. Ond mae'r ffaith bod Cyngor Caerdydd wedi cael 4,000 o geisiadau am gymorth gyda digartrefedd yn 2018—nid yw'r ffigurau hyn ond yn dechrau awgrymu beth yw maint y broblem.
Felly, nid oes dim yn natganiad y Gweinidog heddiw yr wyf yn anghytuno ag ef. Mae'n ymddangos bod y canllawiau a'r rheoliadau'n briodol, ond rwy'n credu y byddai'n esgeulus peidio â thrafod un o'r prif resymau dros y twf cyson mewn digartrefedd, sef, wrth gwrs, toriadau cyllid. Er bod y toriadau i les ers 2010 y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, mae'r toriad o £37 miliwn i'r grant cymorth digartrefedd ers 2012 o fewn rheolaeth y Llywodraeth, ac mae cyllideb eleni unwaith eto yn sicrhau lleihad mewn termau real i'r gyllideb oherwydd effeithiau chwyddiant ar y gyllideb sefydlog.
Nawr, y dull ataliol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r un cywir—rwy'n cytuno ag ef—ond ni ellir ei gyflawni oni chaiff ei gefnogi gan ddigon o gyllid. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch sicrhau bod mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth, a chredaf fod y Gweinidog o ddifrif ynglŷn â hyn, rhaid adlewyrchu hyn mewn penderfyniadau cyllidebol.
Felly, mae Plaid Cymru yn llwyr gefnogi'r ymgyrch Materion Tai sy'n cael ei hargymell gan Cymorth, gan Cartrefi Cymunedol Cymru a chan Cymorth i Ferched Cymru, sydd o blaid cynyddu'r cyllid i'r grant cymorth tai, ac ategir eu galwad gan y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Canfu'r ymchwiliad nad yw'r gyllideb bresennol—unwaith eto, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hyn, Gweinidog—ar gyfer y grant yn bodloni blaenoriaethau ymddangosiadol Llywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd, ac mae'n argymell cynyddu'r cyllid er mwyn cyflawni'r uchelgais pan fo digartrefedd 'yn beth prin ac yn fyrhoedlog ac yn rhywbeth nad yw'n digwydd eto'. Roeddent yn gweld ei bod yn amhosib cyflawni'r nod hwn yn wyneb toriadau blaenorol i'r gyllideb, ac yn wyneb y cynnydd yn y galw am wasanaethau a chymhlethdod.
O ran y mathau o effeithiau bywyd go iawn yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y fan yma, rwy'n siŵr bod y Gweinidog wedi edrych ar rai o'r astudiaethau achos ar wefan yr ymgyrch Materion Tai. Hoffwn ddarllen un ohonynt ar goedd i'r Siambr. Dyfyniad uniongyrchol yw hwn:
Drwy'r Grant Cymorth Tai, rydym yn ddiweddar wedi helpu unigolyn ifanc digartref sy'n defnyddio cadair olwyn i symud i lety dros dro, gan ei gynorthwyo i wneud cais am fudd-daliadau, arian brys, nwyddau gwynion, a chymorth cyn-denantiaeth wrth baratoi i symud i gartref parhaol.
Unwaith eto, gan edrych ar y ffordd gynhwysfawr o helpu unigolyn yn y sefyllfa ddyrys iawn hon. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, o effaith y grant y mae hi'n gyfrifol amdano. Byddwn yn ei hannog yn daer i bwysleisio pwysigrwydd cynyddu'r gyllideb hon i'w chyd-Weinidogion yn y Cabinet, fel y caiff hynny ei adlewyrchu yn nyraniad y gyllideb derfynol, fel y gellir cefnogi pobl eraill fel yr unigolyn hwn a grybwyllais.