7. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:25, 11 Chwefror 2020

Hoffwn edrych yn gyntaf y prynhawn yma ar y materion trawsbynciol hyn. O ran y blynyddoedd cynnar, rydym yn parhau i siapio a gwella bywydau pob plentyn yng Nghymru. Mae dros 36,000 o blant bellach yn defnyddio'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, gan weithio gyda theuluoedd cyfan i atal problemau rhag gwaethygu, a dod â gwasanaethau at ei gilydd i wella cyfleoedd plant. 

Mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth gyfan i wneud yn siŵr bod mwy o gartrefi fforddiadwy o safon ar gael. Rydym yn parhau ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn y tymor hwn, ac mae cynghorau yn adeiladu cartrefi unwaith eto. Ac, fel dŷn ni wedi ei glywed yn y datganiad diwethaf, mae rhai pobl angen cymorth dwys i dorri'r cylch o gysgu tu fas, ac mae saith project newydd yn y rhaglen Tai yn Gyntaf, sydd i'w gweld yn yr adroddiad blynyddol hwn, sy'n gwneud yr union beth hwnnw: torri'r cylch hwnnw a chynnig dyfodol mwy diogel i bobl sydd â hanes o gysgu tu fas yn rheolaidd. 

Mae lleihau effeithiau tlodi yn flaenoriaeth i bob Gweinidog, fel sydd yn amlwg yn y gyllideb ddrafft eleni. Rydym wedi cynyddu ein grant datblygu disgyblion i £5 miliwn, wedi ymestyn ein cymorth ar gyfer urddas mislif drwy gyflwyno eitemau mislif yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, ac wedi ehangu mynediad at brydiau ysgol am ddim i leihau effeithiau credyd cynhwysol. 

Gwaith teg sy'n rhoi boddhad yw'r ffordd orau o hyd i ddod allan o dlodi. Ac mae yn hanfodol i unrhyw genedl ffyniannus. Mae'r prentisiaethau yn cynnig llwybr at gymwysterau ac yn darparu ffordd i bawb hybu eu sgiliau. Rydym ar y trywydd iawn i wireddu ein hymrwymiad ar gyfer 100,000 o brentisiaethau pob oed. 

Mae'r Siambr hon wedi dadlau ers tro fod adnabod a thrin materion iechyd meddwl yn fater i fwy na gwasanaethau iechyd yn unig. Yn 2019 a 2020, gwnaethom gynyddu cyllideb iechyd meddwl i £679 miliwn ac rydym yn mynd ag iechyd meddwl ymhell tu hwnt i'r gwasanaethau iechyd—yn y gweithle, trwy ein dull ysgol gyfan, ac mewn strategaethau siarad.

Ym maes gofal cymdeithasol, gwnaethom gynyddu faint o arian y gall pobl ei gadw cyn gorfod talu am ofal preswyl i £50,000, sef y lefel uchaf yn y Deyrnas Unedig, ac fe wnaethom hynny ddwy flynedd yn gynt na'r cynllun gwreiddiol. 

Mae Cymru yn arwain y byd mewn cyfraddau ailgylchu, ond mae angen inni wneud mwy, drwy symud tuag at economi fwy cylchol, a chyfrannu cymaint ag y gallwn at ddatgarboneiddio. Yn barod, mae dros hanner ein trydan nawr yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac rydym yn sefydlu sector ynni'r môr i arwain y byd. Mae ein gweithgarwch i hybu ffyrdd cynaliadwy o reoli'r tir yn cyfrannu at adfer bioamrywiaeth ein cenedl, ac at ddiogelu'r asedau amgylcheddol rhagorol yr ydym yn ffodus o'u cael.

Ac, yn olaf, yn y blaenoriaethau hyn i'r Llywodraeth gyfan, rydym yn tynnu popeth yr ydym yn ei wneud at ei gilydd i adfer bioamrywiaeth ledled Cymru, gan hyrwyddo ffermio cynaliadwy, wrth gwrs, ond gwneud yr holl bethau bach hynny hefyd, ar hyd ochrau'r ffyrdd, wrth greu ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a defnyddio tir y gwasanaeth iechyd i adfer rhywogaethau.