Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 11 Chwefror 2020.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yr unig welliant i bleidleisio arno yw gwelliant 2 i'r ddadl ar adroddiad blynyddol y rhaglen llywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, un yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.