Lles Anifeiliaid Fferm

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cynnal lefelau uchel o iechyd a lles anifeiliaid fferm wedi bod yn flaenoriaeth allweddol erioed i Lywodraethau Cymru olynol. Nawr bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym ni'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n dal i gynnal y safonau uchel hyn yng Nghymru.