Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn. Mae £432,000 wedi cael eu rhoi i Ddinas a Sir Abertawe yn y flwyddyn ariannol hon i ddatblygu'r achosion busnes rheilffordd a bws ar gyfer metro'r de-orllewin. Bydd gwasanaethau newydd yn helpu i gwtogi amser teithio ar draws y rhanbarth.