Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch am yr ymateb yna. Mae coronafeirws, wrth gwrs, yn fygythiad yn barod i symudedd pobl ar draws y byd, a'r budd sy'n dod o ran y symudedd hwnnw. Mae fy mhrifysgol leol i, Prifysgol Bangor, yn un o'r rheini sydd wedi dod i ddibynnu mwy a mwy ar ei gallu i recriwtio myfyrwyr o dramor. Mae myfyrwyr o Tsieina yn dod i Fangor, er enghraifft, mewn niferoedd sylweddol. A allaf i ofyn pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi dechrau ei roi i sut, efallai, y byddai angen rhoi cefnogaeth i sefydliadau fel Prifysgol Bangor pe bai hi'n dod yn fwy anodd i alluogi myfyrwyr o wledydd fel Tsieina i ddod yno i astudio? Rydyn ni'n gobeithio, wrth gwrs, na fydd hi'n dod i hynny, ond mae angen gwneud y gwaith paratoi rŵan, rhag ofn.