Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 25 Chwefror 2020.
A gaf innau ategu y diolch a'r teyrngedau sydd wedi cael eu talu i'r gwasanaethau arbennig, i'r gweithwyr cyngor, i weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwirfoddolwyr a'r cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd yn wyneb y darluniau eithriadol rydym ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf?
A gaf i ofyn yn gyntaf, Weinidog, sut ydych chi'n ymateb i ddau o arweinyddion cynghorau'r gogledd, yn sir Ddinbych a sir Conwy, sydd wedi beirniadu arafwch ymateb y Llywodraeth? Hynny yw, doedd yna ddim sôn am £500 o daliad i drigolion gafodd eu heffeithio yn Llanrwst, yn Llanfair Talhaearn ac yn y blaen. Ond, wrth gwrs, ar ôl y digwyddiadau yn Rhondda Cynon Taf, wedyn mi roedd yna gyhoeddiad mawr fod yna arian yn dod, a bod yna £10 miliwn i gychwyn ac mi fyddai yna ragor. Dwi'n gwybod bod y scale yn wahanol, ond mae'n rhaid inni gofio roedd yna dros 100 o gartrefi wedi cael eu heffeithio yn y gogledd, a dwsinau lawer o fusnesau hefyd. Felly, sut ŷch chi'n ymateb i'r awgrym efallai bod y Llywodraeth ddim wedi ymateb fel y dylen nhw i'r sefyllfa yn y gogledd tan i'r hyn ddigwyddodd yn y de ddigwydd?
Mae'r cyngor yn y Rhondda, wrth gwrs, yn cynnig arian ychwanegol—y £500 ychwanegol yma. Mae yna sylwadau wedi cael eu gwneud hefyd sy'n gresynu at y ffaith nad yw, er enghraifft, cyngor Conwy yn cynnig £500 o daliad ychwanegol i drigolion sydd wedi cael eu heffeithio mewn llefydd fel Llanrwst, ac mi fyddwn i yn licio clywed gennych chi. Achos yr un yw'r difrod, yr un yw'r effaith mae'r llifogydd yma yn ei gael, ble bynnag rŷch chi'n byw, ond mae'n dechrau edrych fel petasai yna ryw fath o loteri cod post: os ŷch chi'n byw yn y Rhondda, gewch chi £500 ychwanegol; os ŷch chi'n byw yng Nghonwy, gewch chi ddim. Byddwn i eisiau gwybod: onid yw cysondeb yn bwysig? Onid yw tegwch yn bwysig? Ac onid yw'r un mynediad i gefnogaeth, ble bynnag ŷch chi'n byw, yn bwysig? Mi fyddwn i'n awyddus i glywed eich ymateb chi i hynny.
Dwi wedi codi gyda chi, ac rŷch chi'n gwybod, yn y pwyllgor a fan hyn ac mewn fforymau eraill, gofidiau ynglŷn ag adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru—y dyletswyddau ychwanegol, y cyfrifoldebau ychwanegol, ond ar yr un pryd, adnoddau yn crebachu. Nawr, wrth gwrs, mi fydd yna waith ychwanegol yn deillio i ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd, nid yn unig yr ymateb uniongyrchol o ddelio gyda'r gyflafan, ond, wrth gwrs, mi fydd yna asesiadau ychwanegol angen eu gwneud i is-adeiledd ac mi fydd ymchwiliadau cyhoeddus, o bosib, y bydd angen eu harwain neu gyfrannu atyn nhw. A wnewch chi ymrwymo, felly, i sicrhau os oes yna unrhyw waith ychwanegol yn sgil hyn yn dod i gyfeiriad Cyfoeth Naturiol Cymru, yna y byddan nhw'n derbyn yr adnoddau angenrheidiol i ddelio â hynny?
Ac wrth gwrs, nid dim ond Cyfoeth Naturiol Cymru; mae awdurdodau lleol yn yr un sefyllfa, ac wrth gwrs mae yna ystod ehangach o gyrff efallai dŷn ni ddim yn sôn amdanyn nhw. Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, er enghraifft, sy'n gyfrifol am y gullies ar y gefnffordd drwy Lanrwst. Ie, dwi'n gweld y Gweinidog yn dechrau gwrando nawr, ar ôl clywed y term yna. Wel, mae eisiau bod yn glir bod gan yr holl ystod o gyrff perthnasol yr adnoddau angenrheidiol, a tra'i bod hi'n angenrheidiol i ni ffocysu ar y darlun mawr a'r cynlluniau is-adeiledd mawr, mae'n rhaid cofio mai gwaith caib a rhaw, yn llythrennol, sy'n bwysig hefyd o safbwynt glanhau ffosydd, culverts, gullies, ac yn y blaen. Felly, dwi eisiau gwybod pa asesiad nawr fyddwch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan yr ystod yma o gyrff y capasiti angenrheidiol ar gyfer y gwaith caib a rhaw yna? Yn benodol, mi fyddwn i'n licio clywed hynny gennych chi.
Mae yna nifer o bwyntiau o safbwynt y system gynllunio y byddai'n well cyfeirio at y Gweinidog perthnasol ac mi fydd yna gyfle i wneud hynny rywbryd eto, ond byddai ateb i'r tri neu bedwar yna—mi fyddwn i'n ddiolchgar amdano.