Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 25 Chwefror 2020.
Wel, nid hynny oedd fy mhrofiad i yn sicr. Soniais yn fy natganiad am Sefydliad Glowyr Llanhiledd ym Mlaenau Gwent, lle yr oedd pobl yn dod gyda rhoddion yn barhaus. Ac fe'i gwelais mewn man arall, yn Aberpennar—fe wnaethom ni ymweld â chanolfan gymunedol yn etholaeth Vikki Howells, lle yr oedd archfarchnad leol wedi dod â mopiau a channydd a diheintydd. Felly, nid dyna fy mhrofiad i o'r sefyllfa o gwbl, yn anffodus. Felly, dydw i ddim yn credu y gallaf i ychwanegu unrhyw beth arall mewn gwirionedd.