5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru — Strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:10, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am strategaeth Llywodraeth Cymru o ran dulliau modern o adeiladu, 'Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru', a sut y bydd y strategaeth hon yn cefnogi ein huchelgais i ddarparu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel ledled Cymru.

Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae'r Llywodraeth hon wedi parhau i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy, gan ddarparu gwerth £2 biliwn o arian yn ei thymor cyfredol, ond rydym yn awyddus i adeiladu mwy ac rydym yn awyddus i adeiladu'n well. Fe fydd cartrefi cymdeithasol Cymru yn cael eu hadeiladu i safonau uchel o ran lle a harddwch, yn anwesu egwyddorion cadarn o ran creu cynefin, ac, wrth gwrs, braidd dim allyriadau o garbon. Fe fydd adeiladu cartrefi gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern yn chwarae rhan hanfodol wrth wireddu hyn.

Fe gafodd y strategaeth yr wyf i'n ei rhannu â chi heddiw ei chynhyrchu mewn ymateb i argymhellion yn dilyn yr adolygiad o gyflenwad tai fforddiadwy, a oedd yn nodi dulliau modern o adeiladu, neu MMC (modern methods of construction) fel y'i gelwir, yn ffordd o gynyddu'r cyflenwad tai yn gyflymach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ni ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol ac arbenigwyr blaenllaw yn y sector tai, y diwydiant adeiladu a'r byd academaidd i gydgynhyrchu a phrofi dull gweithredu ein strategaeth MMC. Fe gawsom ni gefnogaeth aruthrol i'n cyfeiriad arfaethedig ni a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae eich cyfraniad amhrisiadwy chi wedi helpu i sicrhau bod ein strategaeth ni'n un gadarn, gyda chefnogaeth dda iddi a'i bod yn rhoi'r cyfle gorau inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle a gyflwynir gan MMC i adeiladu tai cymdeithasol ac i'n heconomi ni yng Nghymru.

Er mai megis dechrau y mae hyn, mae yna gydnabyddiaeth yng Nghymru a ledled y DU y gall defnyddio MMC ein helpu ni i adeiladu cartrefi o ansawdd gwell yn fwy cyflym na'r dulliau traddodiadol i ddiwallu'r angen am dai. Rydym ni'n ystyried MMC yn derm trosfwaol sy'n cynnwys dulliau adeiladu amrywiol, o ddeunyddiau a thechnolegau newydd hyd at weithgynhyrchu oddi ar y safle, sydd naill ai'n disodli neu'n ategu dulliau adeiladu traddodiadol.

Er y gallai rhai mathau o MMC fod yn fwy datblygedig na rhai eraill, yr hyn sy'n amlwg yw bod arloesedd yn y maes hwn wedi cynyddu'n ddirfawr dros y blynyddoedd. Rydym yn sicr wedi symud oddi wrth dai parod i dai hollol wych. Fe ddaeth y dyddiau i ben o ymhél â thai parod dros dro o ansawdd gwael; erbyn hyn, mae MMC yn adeiladu cartrefi fforddiadwy o safon uchel, sy'n ddymunol ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac mae tenantiaid yn gallu ymfalchïo ynddyn nhw.

Mae ein dull ni o weithredu MMC yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r argymhellion eraill yn yr adolygiad o dai fforddiadwy. Fe fydd yn helpu cynghorau i adeiladu ar raddfa fawr ac ar gyflymder. Fe fydd ein system grantiau ni'n sicrhau nad yw cynlluniau MMC o dan anfantais o'u cymharu â rhai traddodiadol, ac mae safonau newydd arfaethedig o ran creu lleoedd yn sicrhau bod adeiladau traddodiadol ac MMC yn cael eu trin yn gydradd â'i gilydd.

Rydym yn cydnabod yr angen i feithrin dull cyson o fabwysiadu MMC gyda'n cymdogion. Mae hyn yn cynnwys alinio â dull y DU gyfan o warantau ac achredu cartrefi MMC ar gyfer rhoi hwb i hyder benthycwyr a defnyddwyr a defnyddio diffiniadau cydnabyddedig.

Mae cyfleoedd MMC yn mynd y tu hwnt i adeiladu tai. Mae'r strategaeth yn cefnogi ein huchelgais ni i symud tuag at economi gylchol, oherwydd fe allai adeiladu gan ddefnyddio MMC leihau gwastraff adeiladu gymaint â 70 i 90 y cant. Mae lleihau allyriadau o'r sector tai yn elfen allweddol o'n hymgais ni i liniaru newid hinsawdd ar frys.

Rydym yn ystyried y ffordd orau o nodi'r sgiliau newydd sydd eu hangen i wneud mwy o ddefnydd o MMC, sy'n cynrychioli newid sylweddol yn y diwydiant adeiladu. Mae angen sicrhau bod gan y gweithlu adeiladu presennol y sgiliau angenrheidiol i gyflawni ein huchelgeisiau ni, a denu pobl newydd ac amrywiol a grwpiau ar y cyrion fel troseddwyr, i archwilio cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Mae ein cynlluniau'n rhoi cyfle gwirioneddol i gynhyrchwyr MMC Cymru, y mae llawer ohonyn nhw'n fusnesau bach a chanolig ac yn rhai sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, gan gefnogi busnesau Cymru wrth ddod o hyd i ddatrysiad o Gymru a chryfhau cyflenwyr Cymru. Yn gysylltiedig â hyn mae defnyddio pren o Gymru yn yr hirdymor i adeiladu tai. 

Yn rhan o'r dull hwn o weithredu, rydym wedi dechrau ymarfer i ymgysylltu â holl ddarparwyr MMC Cymru er mwyn deall eu gallu, eu harbenigedd a'u cyfraniad nhw i'n nodau ni o ran tai cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ni'n ffodus fod gennym  gyfoeth o gynhyrchwyr MMC profiadol yng Nghymru sydd eisoes yn cyflenwi cynnyrch o ansawdd uchel i gartrefi a datblygiadau masnachol ledled y DU. Mae'r cyfuniad o'u cynnyrch nhw, eu gweithlu profiadol nhw a'u cadwyn gyflenwi gynhenid nhw'n golygu eu bod ni mewn sefyllfa ddelfrydol ac yn barod i ymateb i'r cynnydd yn y galw am dai MMC.  Rydym eisiau cefnogi'r busnesau hyn i elwa ar fwy o archebion ar eu llyfrau nhw a manteisio ar y buddion economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil cynhyrchu MMC. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyrwyddo'r defnydd o MMC mewn tai cymdeithasol, a'r mis nesaf rydym yn cynnal uwch-gynhadledd i ddod â chynhyrchwyr MMC a landlordiaid cymdeithasol at ei gilydd ledled Cymru ar gyfer rhannu gwybodaeth a meithrin perthynas a chyfleoedd newydd rhwng pobl a'i gilydd.

Ar lawer ystyr, rydym ar flaen y gad yn barod o ganlyniad i lwyddiant ein rhaglen dai arloesol gwerth £90 miliwn sy'n cynnwys nifer o brosiectau MMC sydd ar y gweill eisoes. Er hynny, i gyflymu'r rhaglen eto, rwyf i am sicrhau y bydd £20 miliwn ar gael ar gyfer busnesau MMC a fydd, mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol Cymru, yn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol. Rwyf i am sicrhau y bydd £25 miliwn arall ar gael ar gyfer rownd 4 y Rhaglen Tai Arloesol, sy'n canolbwyntio ar yr MMC yn arbennig.

Nid yw trosi'r strategaeth i fuddion gweladwy yn ymwneud yn unig â buddsoddiad ariannol. Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn ni'n llunio'r nodau hyn mewn cynllun gweithredu a fydd yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n cyflawni amcanion y strategaeth MMC. Fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn toriad yr haf, ond mae gwaith wedi dechrau o ddifrif eisoes. Mae mabwysiadu MMC ymhellach yn peri rhai heriau, ond nid yw'r rhain yn anorchfygol, ac rwy'n hyderus ein bod ni wedi dod o hyd i'r dull iawn a'r partneriaid iawn i fynd i'r afael â nhw. Mae'r strategaeth hon yn ein cadw ni ar flaen y gad o ran datblygiadau newydd ac arloesol, gan sicrhau bod tai cymdeithasol yn arwain y ffordd wrth godi safonau ar gyfer tai Cymru yn eu cyfanrwydd. Diolch.