Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 25 Chwefror 2020.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am y gefnogaeth a ddangosodd i'n huchelgeisiau ar gyfer systemau'r Metro ledled Cymru?
A gaf i ymdrin â'r pwynt cyntaf un a wnaeth Russell George ynghylch buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yng nghyfnod rheoli 6? Bydd yr holl fuddsoddi hwnnw yn ystod cyfnod rheoli 6 ar gyfer gwaith cynnal a chadw'r rhwydwaith rheilffyrdd—gwaith cynnal a chadw. Nid oes dim arian yn cael ei ddyrannu er mwyn gwella'r rheilffyrdd. Mae hynny'n golygu, i bob pwrpas, oherwydd tanfuddsoddi dros y degawd diwethaf, ein bod yn gweld Llywodraeth y DU yn deffro o'r diwedd i'r ffaith bod angen swm anhygoel o arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw a ohiriwyd. Ac o ganlyniad i'r gohirio hwnnw yn y gwaith cynnal a chadw, y dull anghyfrifol hwnnw o gynnal a chadw'r rhwydwaith rheilffyrdd ar hyd llwybr Cymru, mae Llywodraeth y DU bellach wedi gorfod twrio'n ddwfn er mwyn dwyn ymlaen y buddsoddiad ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Hoffem weld cynnig mor hael â hynny ar gyfer gwella'r rheilffyrdd.
Rwy'n croesawu unrhyw swm canlyniadol a fyddai'n dod yn sgil cyhoeddiad y Prif Weinidog ynghylch gwasanaethau bysiau a theithio llesol—y gronfa gwerth £5 biliwn. Gallai hynny gyfateb i ryw £50 miliwn y flwyddyn dros bum mlynedd, a byddai'n sicr yn caniatáu inni gynyddu'r grant cymorth i wasanaethau bysiau, felly, rwy'n croesawu swm canlyniadol o'r gronfa benodol honno. Ond, os ydym yn bwriadu cyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol chwyldroadol ar gyfer ein systemau metro, mae angen rhagor o fuddsoddiad arnom gan Lywodraeth y DU. Er enghraifft, rwyf wedi sôn am wasanaeth pedwar trên yr awr o Wrecsam i Lerpwl. I wneud hynny bydd angen, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod o'r llythyr a anfonais gyda maer metro Lerpwl, Steve Rotherham, ryw £150 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Mae hwnnw'n swm bach, bach iawn o arian o ystyried ein bod, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi gweld rhyw £1 biliwn o danfuddsoddi—arian a dynnwyd i ffwrdd o Gymru, arian a ddylai fod wedi cael ei wario ar lwybr Cymru.
Nawr, yn wir, mae gan HS2 y potensial i drawsnewid llawer o'r cymunedau a fydd yn cael eu gwasanaethu ganddo. Ond er mwyn i Gymru elwa ar HS2, mae'n rhaid bodloni amodau penodol. Mae'n rhaid inni gael y canlyniad cywir yn Crewe, mae'n rhaid datblygu a darparu'r hyb iawn yn Crewe. Mae'n rhaid hefyd i brif reilffordd y gogledd gael ei thrydaneiddio, ac mae'n rhaid trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Crewe a Chaer. Byddai hynny wedyn yn galluogi trenau cyflym yn y dyfodol i deithio yr holl ffordd i Gaergybi. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Amcangyfrifir mai rhyw £1 miliwn yw'r gost ar gyfer y gwaith hwnnw, ac unwaith eto, o'i gymharu â'r amcangyfrif o £1.6 biliwn ar gyfer HS2, nid yw hwn yn swm enfawr i'w fuddsoddi, ac yna byddwn i'n cytuno y gallai HS2 sicrhau manteision sylweddol i'r gogledd.
O ran sicrhau rhagor o fanteision i'r de, oherwydd gallai fod effaith andwyol net ar economi'r de, hoffem weld yr achosion busnes hynny a addawyd gan Lywodraeth y DU yn cael eu dwyn ymlaen i'r cam nesaf. Roedd yr achosion busnes hynny, pan gafodd y cynllun i drydaneiddio prif linell y de ei ganslo, yn cynnwys yr addewid i ystyried gwella cyflymder ar brif linell y de. Mae'n rhaid i hynny ddigwydd. Mae'n rhaid inni weld gwelliannau ar brif linell y de fel mater o frys.
Rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r cyfeiriad strategol, ac mae wedi bod yn wahanol ym mhob un o ardaloedd y metro lle'r ydym, er enghraifft, yn ardal Bae Abertawe, wedi bod yn gweithio llawer iawn gyda'r pedwar awdurdod lleol. Yn y gogledd, bu'r pwyslais i raddau helaeth ar gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Sir y Fflint, oherwydd bod cysyniad y metro yn dechrau yng Nglannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael cylch gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i gynnwys cyfeiriad strategol yn eu cyfrifoldebau ac i sicrhau bod rhaglenni ar draws y tair ardal metro yn cael eu cyflymu gymaint â phosibl. Ond, unwaith eto, gofynnodd Russell George am allu Trafnidiaeth Cymru i gostio'r gwaith. Wel, bydd Trafnidiaeth Cymru yn dibynnu ar gyllid gan Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r rhaglenni.
Mae ased trosglwyddo rheilffyrdd craidd y cymoedd wedi ei gychwyn erbyn hyn, a bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Bu oedi oherwydd trafodaethau, ond rwy'n falch ei fod wedi ei gychwyn erbyn hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at gael rheolaeth o'r darn mawr hwnnw o seilwaith er mwyn gallu buddsoddi £0.75 biliwn ym metro trawsnewidiol de-ddwyrain Cymru.