Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau diweddar a'r rhagolygon o ran deddfwriaeth sy'n deillio o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
I ddechrau, byddaf yn ystyried mater Deddf yr Undeb Ewropeaidd (y Cytundeb Ymadael) 2020 a'r goblygiadau i Gonfensiwn Sewel. Bydd yr Aelodau'n cofio, ar yr unfed ar hugain o fis diwethaf, bod y Senedd wedi dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru i wrthod cydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno. Fel yr adroddwyd eisoes yn y Senedd, roedd y rhesymau am hyn yn gyfansoddiadol yn bennaf—y bygythiad y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei achosi i gymhwysedd y Senedd a gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y negodiadau sydd i ddod a fydd â chanlyniadau difrifol i feysydd polisi datganoledig.
Fe wnaethom bopeth a allem i wella'r Bil, cyn ei gyflwyno ac yna gan weithio'n agos gydag Aelodau Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno gwelliannau a fyddai wedi ei wneud yn dderbyniol o safbwynt datganoli, ond, yn y pen draw, ni allem ddarbwyllo Llywodraeth y DU.
Roedd ein penderfyniad ni yma yn y Senedd yn adlewyrchu pleidleisiau tebyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac yn Senedd yr Alban—y tro cyntaf i'r tair deddfwrfa wrthod rhoi cydsyniad ar gyfer un darn o ddeddfwriaeth seneddol y DU. Er gwaethaf hyn, gwthiodd Llywodraeth y DU y Bil i Gydsyniad Brenhinol a'r Senedd yn anwybyddu barn y tair deddfwrfa. Gallai hyn fod wedi datblygu'n argyfwng cyfansoddiadol o bwys, gan fygwth sylfeini datganoli. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth, disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yr amgylchiadau fel rhai unigol, penodol ac eithriadol, ac fe wnaeth Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn eu disgrifio fel rhai unigryw. Cafwyd sylwadau tebyg gan Arglwydd Callanan, Gweinidog Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi ac mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn.
Ysgrifennais wedyn at Stephen Barclay a Michael Gove, gan gydnabod yr arwyddion calonogol hyn fod Llywodraeth y DU yn cydnabod difrifoldeb y cam hwn ac yn dehongli 'nid fel arfer' Sewel fel 'dim ond o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol'. Ar y sail hon, fe atgoffais i nhw ein bod wedi galw, yn 'Diwygio ein Hundeb', am godeiddio'r confensiwn drwy nodi'r amgylchiadau a'r meini prawf y gallai Llywodraeth y DU, mewn cyfyngder, fwrw ymlaen â'i deddfwriaeth, er gwaethaf diffyg cydsyniad deddfwriaethol datganoledig, a galwyd ar Lywodraeth y DU i gymryd rhan mewn rhagor o drafodaethau ar hyn. Felly, er bod penderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'r Bil cytundeb ymadael heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn peri pryder sylweddol, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU a ninnau'n credu y dylid ei neilltuo fel achos arbennig, ac mae angen i ni adeiladu ar hynny yn awr.
Gan symud ymlaen, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod bron pob un o gyfreithiau'r UE yn parhau i fod yn gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried pa un a yw pwerau i gadw i fyny â deddfwriaeth yr UE y tu hwnt i'r cyfnod pontio yn ymarferol ac yn angenrheidiol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld bod angen taer i ni gyflwyno Bil Senedd sy'n cynnwys pwerau i gadw i fyny â deddfwriaeth yr UE ar y cam hwn. Mae nifer o resymau am hyn.