Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 26 Chwefror 2020.
Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Rowlands am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac rwy'n croesawu'r cyfle hwn yn fawr iawn i ymateb. Byddaf yn canolbwyntio, os caf, ar y meysydd lle mae gan Lywodraeth Cymru y cyfleoedd gorau i ddylanwadu ar ein rhagolygon economaidd yn y dyfodol.
Fel y mae'r Aelodau yn y Siambr yn amlwg yn gwybod, mae'r DU bellach mewn cyfnod o bontio tan fis Rhagfyr 2020, a chytunwyd ar y cyfnod pontio i ganiatáu i'r DU a'r UE gytuno ar gytundeb ar gyfer eu perthynas yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r rhan fwyaf o reolau cyfredol a threfniadau masnachu yr UE yn parhau i fod ar waith, heb unrhyw newidiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o feysydd. Bydd y rheolau presennol ar fasnachu â'r UE yn parhau, fel y bydd yr hawl i deithio heb fisâu i wledydd eraill yr UE. Yn ddiau, bydd negodiadau â'r UE yn cael effaith wirioneddol ar swyddi a safonau byw pobl a'n gallu i ddenu buddsoddiad. Mae arnom angen canlyniad nad yw'n niweidio Cymru'n ddiangen, ond sy'n fanteisiol i Gymru mewn gwirionedd.
Mae'r Llywodraeth wedi gweithio'n galed ar alluogi Cymru i fod yn un o'r rhannau o'r DU sy'n tyfu gyflymaf ers dirwasgiad 2008, gyda'r gyfradd uchaf o fusnesau newydd ym mhedair gwlad y DU, y nifer uchaf erioed o fusnesau mewn bodolaeth, ac mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru bellach yn uwch nag erioed, sef 76.2 y cant. Mae diweithdra, fel y gŵyr yr Aelodau, ar ei lefel isaf erioed, sef 2.9 y cant yn unig. Fel rhanbarth technoleg newydd, gan Gymru hefyd y mae'r economi ddigidol sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Ac fel y nododd David Rowlands—ac rwy'n ddiolchgar iddo am wneud hynny—ymladdwyd yn galed dros Aston Martin Lagonda, a llwyddodd Llywodraeth Cymru i'w denu, ynghyd â busnesau eraill megis INEOS Automotive a CAF. A byddwn yn parhau i ddenu swyddi o ansawdd uchel i Gymru, wrth inni ddwysáu ein hymdrechion i dyfu ein busnesau ein hunain yma yng Nghymru.
Rydym yn parhau i fod yn rhagweithiol yn ein gweithredoedd mewn nifer o feysydd er mwyn cefnogi'r economi yn awr yn ystod y cyfnod pontio a thu hwnt i hynny, a byddwn yn parhau i wneud mwy. Mae ein cynllun gweithredu ar yr economi yn canolbwyntio ar gyfoeth a lles ac ar bwysigrwydd lle, ynghyd â busnesau, pobl a seilwaith fel ysgogiadau economaidd. Mae'r symudiad hwn tuag at fusnesau sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol a thwf cynhwysol yn lleihau anghydraddoldebau ar draws ein gwlad, ond rhaid i'r gwaith hwnnw barhau.
Rydym hefyd yn canolbwyntio ein hegni ar ddiwydiannau sy'n datblygu ac a fydd yn ffynnu yng Nghymru yn y dyfodol—diwydiannau sy'n cynnwys gweithgynhyrchu gwerth uchel, fel lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwasanaethau fel technoleg ariannol, seiberddiogelwch ac ynni gwyrdd. Ac rydym wrthi'n datblygu maniffesto gweithgynhyrchu newydd i ddangos sut y byddwn yn diogelu'r diwydiant hwn ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn parhau i fuddsoddi a chefnogi'r economi sylfaenol, sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n diwallu ein hanghenion bob dydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod wedi sefydlu cronfa her yr economi sylfaenol, a gynyddodd i £4.5 miliwn ar ôl gwrando ar fusnesau ac entrepreneuriaid, ac mae'r gronfa hon yn cefnogi mwy na 50 o brosiectau arloesol ledled Cymru ac yn gweithio i ledaenu manteision gwario lleol yn yr economi leol. Byddwn yn gweithio gyda'r busnesau hyn i ledaenu arferion da ac i sicrhau bod gwersi a ddysgir yn cael eu lledaenu ar draws y wlad, a bydd y gwersi hyn yn ein helpu i newid a gwella'r ffordd y mae'r economi sylfaenol yn gweithio.
Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru i ddarparu mynediad at gyllid i helpu ein busnesau yng Nghymru i ffynnu, ac mae bellach yn rheoli mwy na £500 miliwn o gymorth i fusnesau, gan helpu entrepreneuriaid i ffynnu. Gwn ei fod yn rhywbeth, unwaith eto, y mae David Rowlands yn ei gefnogi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru wedi helpu i greu mwy na 1,040 o fentrau newydd yn ystod 2018 yn unig, a chanfu ymchwiliad diweddar i effaith y gwasanaeth hwn fod y gyfradd o fusnesau craidd a rhai a gynorthwywyd i dyfu sydd wedi goroesi am bedair blynedd yn 85 y cant o'i gymharu â dim ond 41 y cant ar gyfer sampl cyfatebol o fusnesau na chafodd gymorth. Mae hynny'n sicr yn dangos gwerth Busnes Cymru yn sicrhau bod busnesau'n goroesi dros adeg allweddol yn eu bodolaeth. Mae'n wir hefyd fod y busnesau hyn yn fwy tebygol o fod yn y categori risg credyd sefydlog a diogel na busnesau cyfatebol nad ydynt yn cael cymorth yn y grŵp poblogaeth ehangach o fusnesau yng Nghymru.
Nawr, mae heriau newydd fel datblygiad cyflym technoleg, sy'n newid y ffordd rydym yn gweithio yn sylfaenol, effaith newid hinsawdd, sy'n canolbwyntio ein sylw ar ffordd fwy cymdeithasol gyfrifol o weithio, ac wrth gwrs, newid pŵer economaidd byd-eang tuag at yr E7, a fydd yn effeithio ar ein cysylltiadau masnachu yn y dyfodol, yn heriau ochr yn ochr â'r rhai y gallai'r DU eu hwynebu wrth adael yr UE. Nid dyna'r unig beth sy'n digwydd, ac felly, byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n galed i gefnogi economi Cymru drwy'r cyfnod hwn o ansefydlogrwydd yn sgil ffactorau amrywiol a'r cyfnod hwn o newid dramatig, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Cymru'n fan lle gall pawb ffynnu, ac i wella ein gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.