Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 26 Chwefror 2020.
Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn cefnogi'r cais ar gyfer gorsaf Sanclêr. Mae'n un o bedwar sydd ar y rhestr fer ledled Cymru am asesiad pellach ac enwebiad posibl fel blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad gan Lywodraeth y DU. Credaf y byddai o gymorth pe bai Llywodraeth y DU yn dangos ei bod yn barod i fuddsoddi mwy yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ac felly mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu o dan raglen metro'r de-orllewin.