Capasiti Trenau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:00, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd Bethan Jenkins—mae'n ddrwg gennyf, Bethan Sayed—yn gynt, mae'n gweithio fel rhan o jig-so y metro, ac rwyf am gymhwyso fy nghwestiwn i chi drwy ddweud fy mod yn deall nad dewin ydych chi, ac na allwch chi chwifio ffon hud a[Torri ar draws.] Ac ni allwch chwifio ffon hud—[Torri ar draws.] Na. Ac ni allwch chwifio ffon hud a gwneud i’r pethau hyn i gyd ddigwydd yfory, ond o ran dechrau ar y rhannau mwy gwledig a gwahanol o'r rhwydwaith metro, fel Sir Fynwy, fel y crybwyllais wrthych o'r blaen, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod y rhannau hynny o jig-so y metro yn cael eu cysylltu cyn gynted â phosibl? Rwy'n sylweddoli na all ddigwydd yfory, ond mae pobl yn fy ardal yn meddwl bod y metro yn syniad gwych yn ymarferol, ond pryd y daw i bwynt lle bydd yn eu helpu yn eu bywydau?