Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 26 Chwefror 2020.
A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae'r sefydliadau addysg bellach rydym yn ffodus i'w cael yng Nghymru yn rhagorol o ran y ffordd y maent yn ymateb i anghenion cyflogwyr a sut y maent yn dod â chyfleoedd bywyd i gynifer o bobl ifanc, ac mae hynny'n cynnwys Coleg Penybont. Rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y mae Coleg Penybont wedi cynyddu eu hymgysylltiad a'u cyfranogiad mewn cystadlaethau sgiliau. Drwy ymwneud â phrosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae'r Coleg wedi gallu cael unigolyn ar secondiad i'r prosiect, ac mae hynny wedi bod yn aruthrol o bwysig i ddysgwyr. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hefyd fod gan y coleg gysylltiadau hynod gryf yn draddodiadol â chyflogwyr mawr, gan gynnwys Ford a Sony, ond mae hefyd wedi bod yn ymatebol iawn i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau yn ogystal.