Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 26 Chwefror 2020.
Ni allaf anghytuno ag unrhyw un o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod, ac rwy'n ei sicrhau y byddaf yn hyrwyddo'r gwasanaethau hynny a'r prosiectau seilwaith hynny yn ei etholaeth a'r cyffiniau gyda’r Adran Drafnidiaeth, gyda chydweithwyr Trafnidiaeth Cymru, a chyda fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth. Mae'n gwbl hanfodol, fel y dywedodd yr Aelod, fod gennym ddull tîm unedig o fynd ati ar y prosiectau hyn, a dyna'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni ar gyfer ardal Maesteg.