Gwasanaethau Bysiau yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:22, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, mae'r tâl tagfeydd ar gyfer Caerdydd yn destun ymgynghoriad; mae'r cyngor yn cyflwyno hwnnw fel cynnig. Gwn fod y Gweinidog wedi ymgynghori â hwy, sy'n beth da. Nawr, mae problem fawr gyda diffyg hyder y cyhoedd yn y system drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, yn enwedig gan nad ydym wedi cael gorsaf fysiau yng Nghaerdydd ers pum mlynedd. A allwch chi gynnig unrhyw sicrwydd y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau yng Nghaerdydd ei hun, ac i mewn i Gaerdydd, yn gwella?