Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 26 Chwefror 2020.
Wel, nid wyf yn deall y cysyniad o 'ddarostyngedig'. Mae gennym Lywodraeth y DU ar hyn o bryd sy'n ymddangos fel pe bai'n benderfynol o gwestiynu rôl y farnwriaeth ym mywyd cyhoeddus Prydain. Credaf fod risgiau sylweddol i roi gormod o bwyslais ar hyn, sef yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Mae'n sicr yn faes lle dylid mabwysiadu agwedd fwy pragmatig. Er enghraifft, ceir llawer o enghreifftiau o lywodraethu ar sail yr UE yn ei gyfanrwydd: mae Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop yn un a allai fod ym meddyliau'r Aelodau, o ystyried yr amgylchiadau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, lle gallai rhywfaint o lywodraethu ar sail Ewrop gyfan, gan gynnwys, mewn rhai achosion, awdurdodaeth y llys, fod yn gam synhwyrol i'w gytuno er mwyn diogelu buddiannau ehangach.
Credaf fod canolbwyntio ar un agwedd yn unig, fel y mae cwestiwn yr Aelod yn ei wneud, yn dangos methiant i fynd i'r afael â'r effaith a gaiff hynny ar nifer o feysydd eraill, gan gyffwrdd, er enghraifft, ar ddiogelwch dinasyddion Prydain, ac rwy'n siŵr y byddai pob un o'n hetholwyr yn cymryd hynny'n ganiataol.