Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 26 Chwefror 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cyfarfod COBRA ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon ynghylch coronafeirws. Dwi wedi cytuno felly i'r cwestiwn amserol ar coronafeirws gael ei ofyn fel yr eitem olaf o fusnes cyn y cyfnod pleidleisio heddiw. Felly, mae'r cwestiwn amserol nesaf gan Dawn Bowden.