Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gyflwyno'r cynnig ar gyfer ein dadl heddiw, a restrir yn enw Darren Millar, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddweud hefyd na fyddwn, wrth gwrs, yn cefnogi gwelliant 'Dileu popeth' arferol y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 7 gan Blaid Cymru.
Hoffwn feddwl y gall pob un ohonom yn y Siambr hon gytuno bod rhwydwaith ffyrdd addas i'r diben yn hanfodol i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd mwy hirdymor ein gwlad. Mae ein rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd yn hanfodol, wrth gwrs, ar gyfer cynhyrchiant yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ein bod yn gystadleuol. Mae'n cefnogi marchnadoedd llafur cynhyrchiol ac mae'n darparu rhydwelïau ar gyfer masnach yn y wlad hon ac yn rhyngwladol. Credaf y gall pob un ohonom gytuno ar hynny.
Ond buaswn yn awgrymu bod economi Cymru bellach, yn fwy nag erioed o'r blaen, angen cefnogaeth rhwydwaith ffyrdd effeithiol a dibynadwy er mwyn cefnogi twf economaidd Cymru yn y tymor hir ac er mwyn lleihau effaith amgylcheddol cysylltedd ffyrdd gwael a thagfeydd. Mae cyflwr presennol y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru yn golygu nad yw Cymru'n gallu ysgogi na manteisio ar yr hyn sy'n sbarduno gweithgarwch economaidd. Mae tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn atal Cymru'n uniongyrchol rhag cyflawni newid sylweddol yn ei lefelau cynhyrchiant, sydd yn ei dro'n llesteirio twf yng nghyflogau ac allbwn Cymru. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom am honni nad ydym am weld hynny.
Nid oes gennym rwydwaith ffyrdd da ac effeithiol yng Nghymru, a phan gyflwynir cynlluniau, yn aml iawn ni chânt eu rheoli'n dda. Bydd yr Aelodau a oedd yn y Siambr hon yn gynharach heddiw wedi fy nghlywed yn holi'r Gweinidog ynghylch nifer o gynlluniau ffyrdd sydd ar ei hôl hi ac sydd dros gyllideb o ganlyniad i gaffael gwael a rheolaeth wael ar y cynlluniau cyflenwi ffyrdd hynny. Rydym mewn sefyllfa lle nad yw ein system drafnidiaeth ffyrdd bresennol yn gallu ymdopi â'r lefel bresennol o alw.