Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 26 Chwefror 2020.
Mae'n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Dwyrain De Cymru yw'r porth i Gymru. Diben y porth yw caniatáu i nwyddau a gwasanaethau fynd i mewn ac allan. Mae'n gwneud synnwyr, felly, fod cysylltiadau trafnidiaeth da yn hanfodol wrth ehangu economi sy'n tyfu ac yn ffynnu. Yr M4 yw porth strategol Cymru i weddill y Deyrnas Unedig ac i Ewrop. Dyma'r brif rydweli sy'n pwmpio gwaed economi Cymru, ond mae'r rhydweli hon, yn rhy aml, yn cael ei gorlenwi a’i thagu. Y gwir amdani yw ein bod yn cael ein gwasanaethu gan ffordd ddeuol is-safonol nad yw’n bodloni safonau traffordd fodern. Mae tagfeydd ar yr M4 yn effeithio’n andwyol ar ein trefi a'n dinasoedd mawr. Mae ein heconomi yn unig—. Mae Caerdydd ar ei cholled o £134 miliwn y flwyddyn; Abertawe, £62 miliwn; a Chasnewydd, £44 miliwn y flwyddyn.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gorfodwyd y darn hwn o ffordd i gau dros 100 o weithiau. Mae can mil o gerbydau yn teithio ar yr M4 o amgylch Casnewydd bob dydd. Mae hyn yn cynyddu pan fydd digwyddiadau mawr, fel cyngherddau, rygbi, pêl-droed neu griced yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Abertawe. Wedi'i gyfyngu gan y twneli traffordd hynaf yn y Deyrnas Unedig, mae'r darn hwn o ffordd yn achosi mwy o allyriadau gan gerbydau, ansawdd aer gwael a damweiniau.
Argymhellwyd ffordd liniaru’r M4 am y tro cyntaf yn ôl ym 1991. Mae'r achos dros ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd hyd yn oed yn gryfach nag erioed o'r blaen. Treuliodd arolygydd cynllunio’r Cynulliad Cenedlaethol fwy na blwyddyn yn ystyried yr achos dros lwybr M4 newydd i’r de o Gasnewydd. Mae'n rhoi cefnogaeth gyfan gwbl i'r cynnig. Yn ei adroddiad, mae'n manylu ar fuddion economaidd, amgylcheddol ac iechyd y prosiect. Dywedodd y byddai prosiect yr M4 yn darparu—a dyma’i ddyfyniad—
'cyfradd adennill iach ar gyfer y buddsoddiad o gyllid cyhoeddus.'
Am bob punt a fuddsoddir, byddai Cymru’n derbyn £1.50 yn ôl, ond serch hynny, gwrthodwyd ei argymhelliad gan y Prif Weinidog—penderfyniad a wnaed yn unochrog. Rwy'n gobeithio y bydd yn ateb rhyw ddydd beth oedd y gwir reswm dros wrthod y cyfle gwych hwn a fydd, o ddydd i ddydd, nid yn unig yn cynyddu cost y draffordd, ond mae rhesymau eraill hefyd, ac rwyf am sôn amdanynt yn awr. Arweiniodd y gwrthodiad hwn at siom, dicter a rhwystredigaeth ym myd diwydiant a grwpiau busnes yng Nghymru. Llofnododd 90 o fusnesau a sefydliadau, gan gynnwys Admiral, Tata ac SA Brain ddatganiad ar y cyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd liniaru’r M4. Dywedodd CBI Cymru,
Mae hwn yn ddiwrnod tywyll i economi Cymru...Ni all tagfeydd a llygredd ffyrdd o amgylch Casnewydd ond cynyddu. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.
Dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau hefyd,
Mae'r M4 yn ddarn hanfodol o seilwaith sydd â phwysigrwydd economaidd rhyngwladol, ond mae tagfeydd trwm yn ei ddifetha.
Y seilwaith a'r cyfle i ddarparu’r buddsoddiad hanfodol hwn yn ne Cymru sydd wedi eu colli. Ni all y sefyllfa hon ond gwaethygu, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn bod problemau gweithredol difrifol ar gyffyrdd o amgylch Casnewydd, yn enwedig rhwng cyffyrdd 23 a 28. Mae cael gwared ar dollau pont Hafren, er y bydd hynny’n darparu chwistrelliad o dros £100 miliwn o weithgarwch economaidd i Gymru, wedi cynyddu tagfeydd yn aruthrol. Rhwng 2011 a 2016, cynyddodd y traffig ar yr M4 dros 12 y cant. Mae rhagamcanion gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos y bydd traffig yn unig ar yr M4 yn cynyddu bron i 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Nid yw peidio â gweithredu yn opsiwn, Lywydd. Mae pobl Cymru wedi aros yn ddigon hir i'r broblem hon gael sylw. Tra bo Llywodraeth Cymru'n tin-droi ac yn oedi, mae'r traffig yn cynyddu ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae angen gweithredu ar unwaith. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ffordd liniaru’r M4 ar frys. Diolch.