Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar, mae'n rhaid i mi ddweud i gychwyn, i Russell George am gytuno i dderbyn, credaf iddo ddweud, ein gwelliant 2 a'n gwelliant 7, gan fod y cynnig fel y mae yn swnio braidd fel rhywbeth y gallai rhywun fod wedi'i weld yn y 1980au, sy'n awgrymu y gallwn ddatrys ein holl broblemau economaidd drwy adeiladu mwy o ffyrdd. Rwy'n siŵr, o'r hyn y mae Russell George wedi'i ddweud yn ei ymatebion i Huw Irranca-Davies, nad dyna a olygai. Ond mae'n rhaid i mi nodi, Ddirprwy Lywydd, mai dyna mae'r cynnig yn ei ddweud.
Nid oes unrhyw un yn gwadu am eiliad y bydd angen inni barhau i fuddsoddi yn ein rhwydweithiau ffyrdd. Credaf fod y pwyntiau a wnaed gan Russell George ynglŷn â phwysigrwydd hynny mewn cymunedau gwledig, lle mae'n ddigon posibl na all rhai ohonynt byth gael eu gwasanaethu'n effeithiol gan rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus—. Ac ar y meinciau hyn, mae'n bwysig iawn i ni fod y cymunedau hynny'n cael eu cefnogi a'u cynnal, oherwydd ymhlith pethau eraill, mae llawer o'r cymunedau hynny’n gymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith frodorol, lle mae'n dal i gael ei siarad yn ddyddiol. Ac felly, bydd angen i ni barhau i fuddsoddi yn ein ffyrdd. Nid oes unrhyw un ar y meinciau hyn yn gwadu hynny.
Ond nid dyna'r ateb cyfan. A chredaf fod hynny wedi cael ei gydnabod. A gwyddom—ac rwy'n cymeradwyo'r un neu ddwy o astudiaethau academaidd da iawn ar hyn, yn arbennig mewn perthynas â’r hyn a ddywedwyd heddiw am ffordd liniaru arfaethedig yr M4—mai’r gwir yw eich bod, dros amser, yn adeiladu ffordd ac yna mae'n llenwi. Rwyf am ddyfynnu dwy o'r astudiaethau. Ysgrifennwyd 'Demystifying Induced Travel Demand' gan Roger Gorham ar gyfer Gweinyddiaeth Cyllid yr Almaen, a 'The Fundamental Law of Road Congestion: Evidence from US Cities' gan Duranton a Turner ar gyfer yr 'American Economic Review'. A'r hyn y maent yn ei ddangos yw na allwch, yn y tymor hir, leddfu'r problemau hyn drwy orchuddio mwy o gefn gwlad â choncrit.
Nawr, nid yw hynny'n golygu am eiliad nad oes angen gwneud rhywbeth am y problemau o amgylch Casnewydd. Credaf fod pawb yn y Siambr hon—. Mae pob un ohonom, mae'n debyg, wedi gyrru ar hyd y ffordd honno neu wedi teithio ar y ffordd honno ar ryw adeg, a gŵyr pob un ohonom beth sy'n digwydd yn nhwneli Bryn-glas. Ond ni chredwn am eiliad y bydd gorchuddio safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gyda mwy o goncrit yn datrys y broblem honno yn y tymor hir. Mae'n wir dweud bod 43 y cant o'r siwrneiau ar y rhan honno o'r M4 yn deithiau o dan 20 milltir, ac mae llawer o'r rheini'n deithiau na fyddai pobl, gydag atebion trafnidiaeth gyhoeddus addas, yn dewis eu gwneud mewn car. Deg y cant o'r traffig ar y darn hwnnw o ffordd sy’n arwain at y tagfeydd. Felly, pe gallem fynd â hanner y 43 y cant hwnnw o bobl oddi ar y ffordd honno—a dywedaf 'pobl' yn fwriadol, gan mai pobl mewn cerbydau gwag ydynt, dim ond nhw ac un unigolyn arall lawer o'r amser—gallem ymdrin â phroblem y tagfeydd hynny.
Nawr, y mater arall, wrth gwrs, gyda ffordd liniaru’r M4 yw y byddai'n cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu. Hyd yn oed pe baem yn penderfynu ei hadeiladu, byddai'n cymryd saith mlynedd. Ac yn y cyfamser, byddai diflastod twneli Bryn-glas yn parhau i fod yn realiti o ddydd i ddydd.