Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 26 Chwefror 2020.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ystyried ymrwymiadau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen lywodraethu, sy'n ymrwymo'r Llywodraeth i wella'r A40 yng ngorllewin Cymru.
Nawr, bydd y Gweinidog yn gwybod mai un o fy hoff bynciau yw siarad am yr A40 yn Sir Benfro, ac ni fydd ef nac eraill yn synnu y byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i ddeuoli'r A40 yn fy etholaeth, a fyddai, yn fy marn i, yn cael effaith fuddiol iawn ar gymunedau lleol a byddai'n gweddnewid yr economi leol. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r porthladdoedd yn fy etholaeth yn borth pwysig ar gyfer masnach ryngwladol, ac mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol i sicrhau bod y porthladdoedd hyn yn parhau i fod yn gystadleuol yn y dyfodol. Yn wir, mae porthladdoedd Abergwaun ac Aberdaugleddau wedi galw am y datblygiad seilwaith hwn ers rhai blynyddoedd bellach, ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau, mewn egwyddor, fod Llywodraeth Cymru o blaid deuoli'r ffordd hon yn y tymor hir. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno nad yw deuoli'r ffordd erioed wedi bod yn fater gwleidyddol ac os gofynnwch i aelodau o bob plaid, rwy'n siŵr ei fod yn un o'r ychydig faterion seilwaith y gall gwleidyddion o bob plaid gytuno arno, ac felly mae'n hen bryd i'r prosiect hwn gael ei gymryd o ddifrif.
Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trafnidiaeth mewn rhannau eraill o Gymru, megis ffordd Blaenau'r Cymoedd, sy'n eithriadol o bwysig, mae'n hanfodol hefyd fod anghenion seilwaith gorllewin Cymru yn cael eu diwallu. Rydym wedi clywed ymrwymiadau yn y gorffennol ynghylch astudiaethau dichonoldeb ac addewidion o welliannau drwy gydol y Cynulliad hwn, ond mewn gwirionedd, ychydig sy'n cael ei wneud i weddnewid y ffordd hon ac agor gorllewin Cymru i weddill y wlad. Yn wir, roedd yn siomedig darllen yn adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru nad oedd Cymru wedi manteisio'n llawn ar yr arian a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, dywedodd Ian Davies o borthladdoedd Stena Line wrth y pwyllgor mai ychydig o gyllid yn unig a gafwyd ond dim byd arwyddocaol iawn dros y 15 mlynedd diwethaf. Wel, nid yw hynny'n dderbyniol ac mae'n drist clywed bod cyfleoedd wedi'u colli yn y gorffennol i gael cyllid hanfodol ac o ganlyniad, nid ydym wedi gwneud unrhyw gynnydd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn ailedrych ar y prosiect hwn ac yn rhoi ymrwymiad ystyrlon i gymunedau yng ngorllewin Cymru i ddeuoli'r ffordd hon yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na phrosiectau ar raddfa fwy'n unig; mae heriau sylweddol yn wynebu'r rhwydwaith ffyrdd lleol ledled Cymru, ac mae hynny hefyd yn cael effaith ar gymunedau lleol. O fy ymgysylltiad fy hun â phobl leol yng Nghwm Abergwaun, er enghraifft, pa mor niweidiol y gall seilwaith ffyrdd gwael fod. Yn yr achos arbennig hwn, mae cerbydau mawr sy'n teithio drwy Gwm Abergwaun wedi mynd yn sownd, yn llythrennol, rhwng eiddo, gan achosi difrod a pherygl i gerddwyr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi galw am osod pont droed i gynorthwyo cerddwyr yn well ar yr A487 yng Nghwm Abergwaun, ond yn anffodus mae'r galwadau hynny'n dal i syrthio ar glustiau byddar. Nawr, rwy'n derbyn bod system rybuddio'n cael ei datblygu ar hyn o bryd i rybuddio cerbydau mwy sy'n teithio ar y ffordd hon, ac rwy'n croesawu hynny'n ofalus, ond mae'n gwbl hanfodol fod y system hon yn ymarferol ac yn dderbyniol i'r gymuned leol. Dyna pam rwyf wedi estyn gwahoddiad i'r Gweinidog ymweld â'r ardal iddo ef ei hun gael gweld y problemau yn uniongyrchol, ac felly efallai y gall gadarnhau, wrth ymateb i'r ddadl hon, a fydd yn derbyn y gwahoddiad hwnnw ai peidio.
Nawr, mae'r ffaith bod seilwaith da ar gael yn amlwg yn cael dylanwad uniongyrchol ar gynaliadwyedd busnesau ledled Cymru, a dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei pholisïau trafnidiaeth yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig a bod buddsoddiad yn cyrraedd pob rhan o'r wlad. Mae'n rhaid cofio bod cyfaint y traffig ar y ffyrdd yn cynyddu, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod cyflwr y ffyrdd hynny o safon weddus ac yn ddiogel i'w defnyddwyr. Yn 2018, teithiodd cerbydau modur yng Nghymru 29.4 biliwn cilomedr cerbyd. Mae'r ffigur hwn 4.63 biliwn cilomedr cerbyd yn fwy nag yn 2000. Fodd bynnag, yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod cyfaint y ceir a thacsis wedi cynyddu 2.74 biliwn cilomedr cerbyd ers 2000, mae nifer y bysiau a choetsys wedi gostwng 0.8 biliwn yn yr un cyfnod.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y dywedwyd eisoes, inni gydnabod bod bysiau fel bysiau Sir Benfro yn wasanaethau gwerthfawr hollbwysig i gynifer o bobl allu cyrraedd eu gwaith a chyfleusterau cymunedol, a hyd yn oed yn y frwydr yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd. Felly, fan lleiaf, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i'r bobl hynny, i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus yn ddigonol ac yn gallu cludo pobl yn gyfforddus o un lle i'r llall, ac efallai y bydd Bil bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd yn edrych nid yn unig ar y math o wasanaethau sydd ar gael, ond ar sut y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu ar ein seilwaith ffyrdd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd Sir Benfro yn gartref i filoedd o ymwelwyr cyn bo hir, ac eto, er mwyn gallu manteisio'n llawn ar yr hyn sydd gan Sir Benfro i'w gynnig, bydd angen rhwydwaith trafnidiaeth cryf ar waith. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.