5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:47, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae gan y comisiwn flynyddoedd o arbenigedd ym maes trafnidiaeth ymhlith ei aelodau: faint o amser sydd ei angen arnynt i feddwl am yr atebion y mae'n rhaid eu bod ganddynt yn barod? Nid oes angen inni fod yn arbenigwyr ar drafnidiaeth i sylweddoli y bydd angen inni archebu bysiau yn y tymor byr fel ateb dros dro hyd nes y cawn y llwybrau metro, tram a threnau newydd y bydd angen amser i'w hadeiladu.