Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 26 Chwefror 2020.
Ddirprwy Lywydd, ni allaf dderbyn y dylem weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi'i wneud. Ac os caf ddechrau gyda'r M4, yn gyntaf oll, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau dro ar ôl tro yn y Siambr hon ac wedi rhoi ei resymeg dros beidio â bwrw ymlaen â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. A gallaf sicrhau pob Aelod ein bod yn cydnabod bod tagfeydd ar yr M4 yn her y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi. Peidiwch â meddwl nad yw'n opsiwn, nid ar yr ochr hon i'r ffin nac ar ochr Lloegr i'r ffin.
Yma, rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Arglwydd Burns eisoes wedi'i gwblhau gyda Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn eu hadroddiad ym mis Rhagfyr. Dim ond dechrau gwaith y comisiwn yw'r adroddiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach eleni. Rydym hefyd wedi pwysleisio'n eglur fod y prosiect penodol hwn yn gwbl unigryw o ran y raddfa ac o ran yr effaith ar y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac felly bod yn rhaid ei ystyried yn ei hawl ei hun.
Nawr, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cwblhau nifer o brosiectau ffyrdd proffil uchel, gan gynnwys ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd, rwy'n credu, yn enghraifft wych o sut y mae buddsoddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru. Ac fe'i cyflawnwyd, fel y dywedais yn gynharach, yn gynt na'r disgwyl ac fe'i cwblhawyd, rwy'n credu, i'r safon uchaf un y gallai'r cynllun ei chyflawni. Mae'n cynnig newid gwirioneddol o ran sut y mae pobl yn teithio yn yr ardal, yn ogystal ag i'r Drenewydd a thu hwnt. Nawr, mewn cyferbyniad, erbyn mis Gorffennaf 2018, roedd cynlluniau ffyrdd Llywodraeth y DU tua £2.8 biliwn dros y gyllideb a bu oedi gyda 85 o'r 112 o gynlluniau ffyrdd, a gadewch i ni beidio ag anghofio ychwaith am y trasiedïau a achoswyd gan brosiect trychinebus y traffyrdd clyfar, fel y'u gelwid gan Lywodraeth y DU, wedi i Panorama eu disgrifio yn ddiweddar fel ffyrdd sy'n lladd. Nid oes cynlluniau o'r fath yma yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn ein gwelliant, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1 biliwn o welliannau i'r seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau mawr i'r A55 a'r A483, cynlluniau teithio llesol a metro gogledd Cymru, a hyn er bod Llywodraeth y DU yn galw am £200 miliwn o arian yn ôl gennym gyda chwe wythnos yn unig o'r flwyddyn ariannol i fynd.
Nawr, rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd cysylltedd trawsffiniol, ac yn ystod y misoedd diwethaf, bu swyddogion yn gweithio'n agos gyda swyddogion o Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i nodi cynlluniau posibl y gallwn eu datblygu, ac rwy'n ddiolchgar am y cydweithrediad hwnnw. Mae swyddogion wedi nodi dau brosiect mawr y gellid rhoi blaenoriaeth i'w datblygu a'u hadeiladu dros y blynyddoedd nesaf. Y cyntaf yw cynllun ffordd A483 y Pant i Lanymynech, a'r ail yw cynllun yr A5/A483 o'r Amwythig i Wrecsam. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y manteision economaidd a ddaw yn sgil gwelliannau o'r fath i Gymru, bydd angen i'r ddwy Lywodraeth neilltuo adnoddau, ac mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddyrannu arian os gall Llywodraeth y DU wneud yr un peth drwy'r strategaeth fuddsoddi mewn ffyrdd.
Nawr, mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn tynnu sylw at ein hymrwymiadau i wella'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, er gwaethaf y degawd o gyni rydym wedi'i ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru, nad yw'n cael ei hariannu i wneud hynny, hefyd wedi buddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd, gan ddewis cysylltu cymunedau drwy ailagor rheilffyrdd a gorsafoedd newydd, gan roi blaenoriaeth i gynyddu capasiti i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr a phoblogaidd, a chau croesfannau i wella diogelwch ac amseroedd teithio. Roedd fy natganiad llafar ddoe yn hysbysu'r Aelodau ynglŷn â'r angen i berchnogaeth ar y seilwaith rheilffyrdd a'r gwaith o'i ariannu fod yn nwylo pobl Cymru. Rydym wedi bod yn isel ar restr blaenoriaethau San Steffan ar gyfer gwella'r rhwydwaith rheilffyrdd ers gormod o amser. Gallai hynny ddod i ben gyda datganoli cyfrifoldebau a chyllid.
Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn hefyd wedi cyflawni cyfran sylweddol o'r gwaith o drawsnewid metro de Cymru, gan ailgadarnhau ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon. Nawr, bydd datgarboneiddio trafnidiaeth yn thema allweddol yn strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, sydd i'w chyhoeddi eleni, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym wedi dyrannu £74 miliwn ychwanegol ar gyfer mesurau datgarboneiddio trafnidiaeth.
Nawr, fel y dywedais yn fy ateb i gwestiynau yn gynharach heddiw, mae £2 filiwn yn cael ei fuddsoddi i greu mannau gwefru cyflym ledled Cymru er mwyn galluogi teithiau hwy a hyrwyddo'r newid o geir petrol a diesel, ac mae hyn yn cefnogi ein huchelgais i sicrhau na fydd unrhyw allyriadau o bibellau mwg ein fflyd o dacsis a bysiau erbyn 2028.
Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi fanteisio ar y cyfle hwn i roi sicrwydd i Suzy Davies a Paul Davies ein bod, ym mhenderfyniad y Llywodraeth hon i godi lefelau yng Nghymru, yn datblygu prosiectau ledled y wlad, gan gynnwys lliniaru tagfeydd ar gyffordd 47 yr M4 a dau brosiect mawr ar yr A40. Er hynny, yn amlwg, pe bai Prif Weinidog y DU yn penderfynu rhoi'r gorau i'w syniad £15 biliwn o adeiladu pont rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid yn unig gallai wneud iawn am ladrad mawr y trenau gwerth £1 biliwn, gallai fod â digon o arian ar ôl hefyd i fuddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r A40.
Ddirprwy Lywydd, mae uchelgais y Llywodraeth hon i weld Cymru fwy ffyniannus, mwy gwyrdd a mwy cyfartal drwy gysylltedd trafnidiaeth gwell yn un y gobeithiaf y bydd pawb yn dyheu amdani yn y Siambr hon, ac fe all ac fe ddylai Llywodraeth y DU roi cyfran decach o gyllid i Gymru er mwyn i hynny allu digwydd.