Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 26 Chwefror 2020.
Rwy'n cytuno y bu rhywfaint o lanw a thrai yng ngrym a dylanwad y taleithiau ac yn arbennig, lle bydd talaith yn cyflwyno syniad polisi da ac yn gwneud pethau'n well na thaleithiau eraill, yn aml bydd y taleithiau eraill hynny'n eu mabwysiadu, neu o bosibl bydd y Llywodraeth ffederal yn ceisio ei roi ar waith. Ac oes, mae yna densiynau mewn ffederaliaeth, ac mae'n rhoi grym i oruchaf lys, ond buaswn i'n cynnig, yn yr Unol Daleithiau neu yn yr Almaen, fod systemau ffederal wedi bod yn llawer mwy sefydlog na'r system o ddatganoli a gawsom, a welodd lif cyson o bwerau un ffordd tuag at fwy o ddatganoli.
Nid wyf yn gwybod a fyddwch yn siarad yn nes ymlaen, ond ni chlywaf ateb i'r cwestiwn ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda Lloegr. Ymddengys bod y dadleuon am ffederaliaeth yn fwy diddorol ac yn cael mwy o sylw o lawer yng Nghymru, yr Alban, ac efallai i raddau yng Ngogledd Iwerddon, nag yn Lloegr, ac mae problemau sylweddol ynghlwm wrth y naill neu'r llall o'r modelau hynny o Gynulliad rhanbarthol neu Senedd i Loegr. Rwy'n ei chael yn anodd gweld trefn lywodraethol gynaliadwy yn y DU lle mae gennych Senedd a Llywodraeth Lloegr ar wahân gyda'r fath bŵer, dylanwad a maint o'u cymharu â Llywodraeth y DU. Ac er y byddaf yn gwrando ar gyfraniadau, boed yma neu yn rhywle arall, nid wyf eto wedi gweld ateb i hynny.
Roeddwn yn sôn am y nifer fawr o Aelodau a bleidleisiodd dros aros yn yr UE ac sy'n ystyried bod gadael yr UE yn lleihau'r DU. Rwyf fi, wrth gwrs, yn ei weld yn wahanol. Credaf fod gadael yr UE yn gwella'r DU, felly efallai nad wyf yn rhoi'r pwyslais y bydd eraill yn ei roi ar y risg y bydd yr Alban yn dod yn annibynnol neu Iwerddon yn ailuno. Ond os ydych chi'n disgwyl i'r Alban a Gogledd Iwerddon i fynd yn eu ffordd eu hunain, bydd datganoli i Gymru yn fater byw iawn, a heb fod yn sefydlog, fel y mae gwelliant y Llywodraeth yn honni.