8. Dadl Plaid Brexit: Datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:35, 26 Chwefror 2020

Diolch yn fawr, Llywydd. Ac ie, dwi yma yn symud gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian, a jest i ddyfynnu, rydym

'yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.'

Yn bellach, rydym

'yn credu bod Llywodraethau olynol y DU—o dan Lafur a’r Ceidwadwyr—wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.'

Yn bellach, rydym

'yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.'

Hefyd, rydym

'yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.'

A hefyd, rydym

'yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.'