Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 26 Chwefror 2020.
Ie, yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, yn sicr—[Torri ar draws.] Y mynydd uchaf yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n wir hefyd. Nid wyf yn meddwl mai dyna'r mynydd uchaf yn Lloegr, beth bynnag a ddywedodd Dafydd Elis-Thomas yn flaenorol.
Rwyf wedi rhoi sylw difrifol i'r dadleuon. Mae gan lawer o wledydd yn y byd systemau ffederal, ac un o atyniadau posibl system ffederal yw bod llawer, os nad y rhan fwyaf ohonynt, yn sefydlog. Felly, yn hytrach na chael y broses hon o ddatganoli mwy fyth a'r llethr llithrig hwn, mae'n bosibl y gallem roi system sefydlog yn ei lle.