8. Dadl Plaid Brexit: Datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:38, 26 Chwefror 2020

Af i â chi yn ôl i 2011, gan, wrth gwrs, doedd Mark Reckless ddim yma ar y pryd, ac yn refferendwm 2011, gwnaeth pobl Cymru ddweud yn glir—64 y cant ohonyn nhw yn dweud ‘ie’; dweud yn glir bod angen mwy o bwerau ar y Senedd yma i wneud ei gwaith yn iawn. Dŷn ni’n dal i aros am wireddu'r ddyhead yna. Mwy o bwerau fan hyn i’w wneud e i weithio yn iawn. Mae angen parchu penderfyniad refferendwm 2011, ac angen parchu’r penderfyniad yna. A hefyd, yn bellach na hynny, cefnogi gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian. Diolch yn fawr.