Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol. Disgrifiodd Ron Davies ddatganoli fel proses, nid digwyddiad. Mae 'proses sy'n esblygu' yn ffordd arall o ddweud 'dim trefniant sefydlog'. Caiff ein trefniadau cyfansoddiadol eu herio'n gyson a chredwn fod hynny'n fethiant. Gall Llywodraeth Cymru honni yn ei gwelliant mai ein sefydliadau datganoledig presennol yw ewyllys sefydlog pobl Cymru, ond dyna'r cyfan ydyw: honiad. Os yw'r sefydliadau hyn wedi cael cefnogaeth mor sefydlog, pam y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn ysu i newid y sefydlogrwydd tybiedig hwnnw?
Wrth gwrs, drwy hanes, mae pobl a sefydliadau'n ysu am arian a phŵer. Mae Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad hwn yn mynnu mwy o arian a mwy o bŵer, ac yn honni y caiff ei wario neu ei arfer yn well na Llywodraeth y DU. Ond beth a gyflawnwyd? O ran addysg, mae Cymru'n dal i fod ar waelod y tabl yn y DU o hyd ac yn is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth ar ganlyniadau PISA. O ran iechyd, mae gennym niferoedd uwch nag erioed yn aros dros 12 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys—ddwy waith a hanner yn fwy nag yn Lloegr—ac mae gennym fwrdd iechyd sy'n gaeth i fesurau arbennig am dymor Cynulliad cyfan. Yn y cyfamser, mae'r cyflog wythnosol gros yng Nghymru £50 yn is na chyfartaledd y DU, bwlch sydd wedi tyfu'n aruthrol yn ystod datganoli. A lle mae gan Lywodraeth Cymru ddulliau o wella ein perfformiad economaidd, mae'n methu eu defnyddio'n effeithiol. Gwelwn y costau'n cynyddu o hyd ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd ymhell o fod wedi'i chwblhau, tra gwariwyd £114 miliwn ar ffordd liniaru'r M4 a addawyd, ond sydd wedi ei chanslo bellach, gan dorri de Cymru oddi wrth ffynonellau allweddol o dwf economaidd. Gallwch edrych ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelod Mandy Jones am ogledd Cymru.
Felly, ai ewyllys sefydlog pobl Cymru mewn gwirionedd yw y dylai Llywodraeth y DU gael ei hamddifadu o bŵer, sylwedd ac awdurdod am byth er budd Llywodraeth a Chynulliad Cymru? Nid wyf yn credu hynny. Pleidleisiodd Cymru 4:1 yn erbyn datganoli yn 1979, ac o ffracsiwn o ganran dros fodel cyfyngedig—gan ddatganoli pwerau Gweithredol a gweinyddol Swyddfa Cymru—yn 1997. A dylem wynebu'r ffaith bod llwybr datganoli yng Nghymru wedi digwydd yn sgilwynt yr Alban. Wrth gwrs, ceir llawer o arolygon barn y gallwn sôn amdanynt, ond ar unrhyw fesur, mae'r galw am hunanlywodraeth, ymreolaeth neu annibyniaeth yng Nghymru yn llai nag yn yr Alban. Ond mae Llywodraeth Cymru yn hoffi cael mwy o bŵer, felly dywed fod yn rhaid i ni gael yr un peth â'r Alban. Mae hunan-les sefydliadau a gwleidyddion datganoledig yn gweithredu i gynyddu rhaniad a phwysleisio gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr. A yw pobl eisiau hynny, ac a yw strwythur datganoli'n gynaliadwy?
Mae'r pwerau mwy sydd gan Lywodraeth a Senedd yr Alban—y rhai a roddwyd drwy'r addewid drwgenwog—yn adlewyrchu ofn gwleidyddion y DU y byddai'r Alban fel arall yn pleidleisio dros annibyniaeth. Nid yw'r un peth yn wir mewn perthynas â Chymru. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a—medd y papur trefn wrthym bellach—Gogledd Cymru yn ysgrifennu llythyrau bygythiol i San Steffan, yn mynnu datganoli'r rheilffyrdd yn llawn, doed a ddelo. Mae'n dweud wrth ASau San Steffan fod yn rhaid ei wneud er mwyn achub yr undeb, o ystyried bod yna symudiad cynyddol dros annibyniaeth i Gymru. Mae arnaf ofn, ar y mater hwn, nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif.
Mae'r Prif Weinidog, o leiaf, o ddifrif ynghylch diffyg ariannol Cymru. Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd cyfanswm gwariant y Llywodraeth yng Nghymru yn 2019 yn £13.7 biliwn yn fwy na'r trethi ac incwm arall y Llywodraeth a godwyd yng Nghymru. Mae'r diffyg ariannol hwnnw'n gyfwerth â 19.4 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, o'i gymharu â thua 7 y cant yn yr Alban. Dyma ddadl gref y Prif Weinidog yn erbyn annibyniaeth; galwad Plaid Cymru fod Lloegr yn mynd â £1 o bob £5 a werir yng Nghymru. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon cuddio y tu ôl i'r alwad honno, wrth iddi ysu am fwy a mwy o ddatganoli. Yr alwad ddiweddaraf, a fynegwyd mewn adroddiad hir a pharchus a gomisiynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw datganoli cyfiawnder a phlismona. Gan fod y llysoedd a'r heddlu'n cydgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli, dywedir wrthym fod yn rhaid eu datganoli hwythau hefyd, er y gall y rhesymeg honno weithio'r ddwy ffordd wrth gwrs. Yn yr un modd, dywedir wrthym ei bod yn afresymegol i ddeddfwrfa beidio â chael ei hawdurdodaeth ei hun, ac felly fod yn rhaid i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol, ar wahân i gyfraith Lloegr a chyfraith Seisnig. Unwaith eto, gall y rhesymeg honno weithio'r ddwy ffordd.
Beth a wnawn os bydd pleidleiswyr yn Lloegr yn penderfynu eu bod wedi cael digon ar y gost y mae datganoli'n ei achosi iddynt hwy wrth i'r llywodraethu sy'n gyffredin rhyngom erydu? Mae nifer, gan gynnwys yn y Siambr hon, yn cydnabod pa mor galed yw hi i gysoni datganoli yn y DU â rhesymeg systemau gwleidyddol a welwn mewn mannau eraill yn y byd. Ddydd Sadwrn, yn Newcastle, clywais y cyn-Brif Weinidog yn amlinellu ei weledigaeth o DU ffederal. Clywais David Melding yn datblygu ei syniadau yn y maes hwn ar sawl achlysur. Yn wir, clywsom ddoe fod ei gyd-Aelod, Darren Millar, yn ochri ag ef bellach, er nad wyf yn gwybod a yw hynny wedi digwydd drwy rym rhesymeg neu o'i ailadrodd yn ddigon aml. Nid wyf wedi fy mherswadio gan eu hachos. Y rheswm am hynny yw, er fy mod yn pwysleisio'r hyn sy'n gyffredin rhwng Cymru a Lloegr, mae'r gwahaniaethau'n fwy na'r rheini rhwng rhanbarthau Loegr. Ac fel y gwelsom mewn refferendwm yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, nid oes llawer o awydd yno i gael Cynulliadau ar wahân. Y dewis arall yn lle hynny, mewn system ffederal, yw Senedd i Loegr. Yn ogystal â'r tebygolrwydd y byddai'n creu haen arall o wleidyddion nad oes galw amdani, byddai pŵer, maint a chyllideb sefydliad o'r fath, a'i Lywodraeth gysylltiedig yn ôl pob tebyg, yn awgrymu goruchafiaeth a fyddai ynddi'i hun yn tueddu i danseilio sefydliadau a fyddai'n parhau ar sail y DU.
Mae nifer o'r Aelodau a bleidleisiodd dros aros yn yr UE, ac sy'n teimlo bod y DU yn cael ei lleihau drwy adael yr UE, yn ofni y bydd hyn yn arwain at uno Iwerddon ac annibyniaeth yr Alban. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio i'r Aelod dros Fynwy.