Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Mae hwn yn gynnig i chwilio am bennawd gan blaid sy'n chwilio am bwrpas. Mae'n ymgais eithaf amrwd gan Blaid Brexit—ac mae'r cliw yn yr enw—i ddod o hyd i darged newydd i ymosod arno gan na allant feio'r Undeb Ewropeaidd mwyach am yr holl drafferthion. Pwy sydd nesaf ar y rhestr o dargedau? Yr union sefydliad y maent yn dewis eistedd ynddo. Ond Lywydd, mae'n ymddangos i mi fod yna wrth-ddweud sylfaenol wrth wraidd ymgais Plaid Brexit i newid ei ffocws o achos sydd wedi ei ennill i un rwy'n mawr obeithio ac yn disgwyl ei fod yn un na allant ei ennill.
Roedd eu hymgyrch yn erbyn yr UE wedi'i seilio ar bryderon pobl mewn cymunedau ledled y DU fod penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn rhy bell o'u cymunedau. Eu targed newydd yw'r Senedd hon. A beth bynnag arall a gaiff ei ddweud amdanom, ar y cyfan, rydym wedi ymwreiddio yn ein cymunedau ac yn hapus iawn i gael ein dwyn i gyfrif gan ein hetholwyr.
Felly, beth y mae 'adfer rheolaeth' yn ei olygu mewn gwirionedd? Pan anfonodd yr etholwyr neges eu bod yn teimlo'n analluog i ddylanwadu ar y penderfyniad tyngedfennol yn eu bywydau, a ydym mewn difrif i gredu mai'r hyn roeddent am ei weld mewn gwirionedd oedd canoli'r holl bŵer hwnnw mewn milltir sgwâr o amgylch San Steffan, unbennaeth etholedig gan Lywodraeth y DU, sydd â mwyafrif mawr, a all sathru ar unrhyw un o'r ffynonellau eraill o gyfreithlondeb yn y DU, boed yn sefydliadau datganoledig, llywodraeth leol neu'r farnwriaeth? Nid wyf yn credu hynny.
Lywydd, mae'r Senedd hon yn dal yn gymharol ifanc—byddwn yn cyrraedd ein pen-blwydd yn un ar hugain oed cyn bo hir—ac nid yw datganoli yng Nghymru wedi bod yn statig mewn unrhyw fodd. Rydym wedi newid o fod yn gorff corfforaethol i fod yn Senedd, o fod yn llunwyr is-ddeddfwriaeth i fod yn ddeddfwrfa deddfwriaeth sylfaenol, gyda phwerau treth cynyddol ac awydd i gael rhagor o ddatganoli. Erbyn hyn, mae gennym allu i wneud dewisiadau sy'n well ac yn wahanol ac sy'n gweddu'n well i bobl Cymru. Ac rwy'n credu ei fod yn gyflawniad gwirioneddol, er bod y model datganoli wedi newid, fod egwyddor datganoli wedi dod yn ewyllys bendant pobl Cymru erbyn hyn, ac mae'r clod am y cyflawniad hwnnw i'w rannu gan bob un o'r pleidiau prif ffrwd a gynrychiolir yn y Siambr hon. Felly, gadewch i ni wrthod y cynnig am yr hyn ydyw—ymgais i danseilio ewyllys pobl Cymru gan blaid sydd ar ei gwely angau.
Trof at y gwelliannau. Mae gwelliant Plaid Cymru, fel y dywedodd Hefin David, yn ymosod ar Lywodraethau olynol yng Nghymru, er eu bod yn rhan o'r hyn y dywedwn i, o leiaf, ei bod yn Llywodraeth glymblaid lwyddiannus rhwng 2007 a 2011. Mae gwelliant 1 yn un nad ydym yn anghytuno â'i sylwedd o gwbl, ond rydym am allu pleidleisio ar y gwelliant a osodwyd gennym, sy'n cyfleu natur drawsbleidiol a dinesig y setliad datganoli yma yng Nghymru. Clywais gyfraniadau gwych o feinciau'r Ceidwadwyr yng nghyswllt datganoli. Nid oedd y gwelliant, yn fy marn i, yn cyfleu hynny. Roeddwn wedi meddwl efallai eich bod yn disgwyl am gyfeiriad o San Steffan; credaf efallai fod hynny'n annheg, o ystyried y cyfraniadau a gafwyd yn y ddadl. Ac fel dyn a achubwyd o ebargofiant gwleidyddol gan ddatganoli, credwn fod Neil Hamilton wedi gwneud cyfraniad arbennig o anniolchgar wrth gynnig ei welliant, am ei fod yn synhwyro ei dranc gwleidyddol yn y lle hwn efallai, ac yn troi ei olygon at swydd etholedig ar fwrdd iechyd yn rhywle yn y dyfodol, efallai.
Ond o ddifrif, Lywydd, mewn byd rhyngddibynnol cymhleth a rhwydweithiol yn fyd-eang, lle na ellir ymdrin â rhai problemau—fel newid hinsawdd—ac eithrio ar draws awdurdodaethau, rhaid teilwra eraill—fel gofal cymdeithasol neu addysg— o ran yr atebion iddynt, yn ôl angen lleol. Yr hyn sydd ei angen arnom yn y math hwnnw o fyd yw model gwasgaredig o bŵer a democratiaeth a gwneud penderfyniadau, sy'n cydnabod ac yn dathlu rôl sefydliadau datganoledig fel y Senedd hon, a all greu seneddwyr sydd wedi rhoi areithiau heddiw fel Carwyn Jones, David Melding, Angela Burns ac eraill, a dylem ymfalchïo yn y cyfraniad y mae'r sefydliad hwn yn ei wneud i Gymru ac i ddemocratiaeth Cymru, a pheidio â'i fychanu. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y cynnig a chefnogi gwelliant y Llywodraeth.