Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 3 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:20, 3 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, pan ddaw'n fater o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, siawns bod yn rhaid i ni fynd ati ar sail tystiolaeth. Rydym ni'n gwybod bod y cynllun Tai yn Gyntaf yn y Ffindir wedi cael canlyniadau ardderchog ers ei lansio dros ddegawd yn ôl, ac mae cynllun yr Alban, a lansiwyd y llynedd, eisoes wedi cartrefu 216 o bobl. Nawr, gall y cynllun hwnnw fod yn arbennig o effeithiol i'r rhai sy'n gadael gofal pan fydd eu cymorth gan wasanaethau cymdeithasol yn diflannu yn 18 oed. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ariannu cynlluniau arbrofol drwy sefydliadau gwych fel grŵp Pobl yng Nghasnewydd, yn Rhydaman ac yn Rhondda Cynon Taf. Rwy'n clywed gan y sector fod y cynlluniau hyn yn cyflawni canlyniadau gwych, fel y byddem ni'n ei ddisgwyl. Ond, Prif Weinidog, o ystyried ein bod ni eisoes yn gwybod bod Tai yn Gyntaf yn gweithio, byddwn i'n cwestiynu a oes angen i ni ei dreialu yma. Oni ddylem ni fwrw ati i'w gyflwyno ledled Cymru gyda chyllid cynaliadwy fel y gallwn gynorthwyo pobl ddigartref a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref pan fyddan nhw'n ifanc, ac o bob oed, ym mhob cwr o'r wlad i gael llety diogel, nid dim ond y bobl hynny sy'n ddigon ffodus i fyw yn ardaloedd y cynllun arbrofol presennol?