Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Wrth wneud y gwaith hwnnw, rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws y Llywodraeth, y cyhoedd a'r trydydd sector i gefnogi'r nod hwnnw. Mae mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc hefyd yn cael ei lywio gan ein hymgysylltiad â'r ymgyrch End Youth Homelessness.