Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau heddiw am eu holl gyfraniadau a'u cefnogaeth ar draws y Siambr hon. Rwy'n credu bod hon wedi bod yn ddadl bwysig iawn y mae angen inni fyfyrio arni.
Rwyf wedi cefnogi'r holl welliannau oherwydd mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ac yn edrych i'r dyfodol, hefyd, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau. Wrth gwrs rydym yn croesawu ac yn annog camau gweithredu gan Lywodraeth y DU ac yn gweithio gyda'n gilydd, pan fo'n bosibl, i fynd i'r afael â throseddau casineb. Nid yw rhai o'r ysgogiadau polisi allweddol sy'n ymwneud â mynd i'r afael â throseddau casineb wedi'u datganoli, megis plismona a chyfiawnder. Ond rydym yn chwarae ein rhan ym mwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb. Rwy'n dod â phartneriaid yr heddlu at ei gilydd, ac rwy'n gadeirydd, wrth gwrs, ar y bwrdd partneriaeth plismona. Rydym wedi gweithio ar agweddau ar hyn, ein cynllun ni, gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli—ac ar eu cynllun nhw hefyd—ac yn cael ei hystyried wrth ddatblygu a gweithredu ei pholisi troseddau casineb.
Enghraifft o hyn yw cynllun ariannu camau diogelu mannau addoli Llywodraeth y DU. Rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod am hyn. Rwy'n ymwybodol nad ydym mewn gwirionedd wedi cael cymaint â hynny o arian y Swyddfa Gartref eto yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda chymunedau ffydd i nodi rhwystrau a mynd i'r afael â nhw, ac rydym yn gobeithio y byddwn yn gweld rhai ymgeiswyr llwyddiannus.
Yn amlwg, o ran ystadegau troseddau casineb, mae unrhyw gynnydd yn achos i bryderu a chraffu, ond fel y pwysleisiais yn fy araith agoriadol, bu cryn dipyn o waith ac ymdrech yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a rhoi hyder i ddioddefwyr i ddod ymlaen ac adrodd am droseddau casineb. A gwyddom fod troseddau casineb yn cael eu tangofnodi'n sylweddol, gyda data o'r arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer y blynyddoedd 2015-16 i 2017-18 yn dangos mai dim ond 53 y cant o ddigwyddiadau sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu, fel y dywedwyd. Ac mae mor bwysig bod y neges o heddiw ymlaen yn neges unedig bod dioddefwyr yn parhau i ddod ymlaen.
Nawr, rwyf wedi crybwyll, o ran hil, bwysigrwydd ein grant cymunedau lleiafrifoedd ethnig ar gyfer troseddau casineb, a byddwn yn gweld effaith hwnnw. Ond rwyf hefyd yn dymuno talu teyrnged i Fforwm Hil Cymru. Mae'n adnodd hanfodol o arbenigedd a chyngor, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i adolygu'r cylch gorchwyl, gan edrych ar ffyrdd o ddylanwadu ar bolisi yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Ddoe, ymwelais â'r Eglwys Gristnogol Tsieineaidd yng Nghaerdydd ar Heol Llandaf—efallai fod rhai ohonoch yn ymwybodol ohoni. Roedd yn gyfle i gyfarfod ag aelodau o'r eglwys a'r gymuned Tsieineaidd i ddeall beth oedd eu barn nhw ynghylch peth o'r effaith yn gysylltiedig â coronafeirws. Rydym wedi gweld rhai ystadegau sy'n peri pryder. Ond roedden nhw mewn gwirionedd eisiau dweud, 'Diolch am ddod i'n gweld ni.' Ac mae hyn yn ymwneud â'r ffordd y mae'n rhaid inni estyn allan at bobl.
Mae hyn yn bwysig, hefyd, fel y crybwyllwyd, o ran ystadegau troseddau casineb ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n dangos cynnydd o 80 y cant mewn troseddau casineb trawsrywiol, y mae Leanne Wood wedi sôn amdanyn nhw, a chynnydd o 12 y cant mewn troseddau casineb pan fo cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol. Mae hyn wedi digwydd oherwydd bod troseddau casineb wedi'u tangofnodi mewn blynyddoedd blaenorol neu heb gael eu cydnabod a'u cofnodi'n well gan yr heddlu. Ond rydym yn ystyried sut y gallwn roi mwy o gefnogaeth i'r aelodau hyn o'n cymuned. Ac mae'n hanfodol, felly, ein bod yn croesawu adolygiad parhaus Comisiwn y Gyfraith o ddigonolrwydd a chydraddoldeb yr amddiffyniad a gynigir gan ddeddfwriaeth troseddau casineb.
Rydym ni, Lywodraeth Cymru, wrth gwrs wedi mabwysiadu diffiniad gweithio Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod, ac rydym yn annog aelodau'r gymuned i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau. Os oes unrhyw un yn y gymuned yn dyst neu'n ymwybodol o ymddygiad amheus neu fygythiol neu droseddau casineb, mae'n rhaid iddyn nhw roi gwybod amdanyn nhw, cysylltu â'r heddlu neu'r ganolfan genedlaethol ar gyfer adrodd am droseddau a chael cymorth, sy'n cael ei gweithredu gan Cymorth i Ddioddefwyr. Ac rwy'n annog pobl i edrych ar y prosiect 75 Memorial Flames. Mae wyth grŵp cymunedol o Gymru wedi creu darnau o waith celf—ac ymunodd llawer ohonom yn hyn—i gofio am bawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Maen nhw'n cael eu harddangos yn yr Aes yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Hoffwn ddiolch hefyd i Leanne Wood am dynnu sylw at yr achosion penodol hynny o bryder a gododd—ac mae hi, wrth gwrs, wedi codi'r rheini gyda mi o'i hetholaeth hi—a dweud fy mod yn cwrdd â Mrs Alina Joseph yr wythnos nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ymuno â ni. Mae'r achos y rhoddodd wybod inni amdano ac yr ydym ni'n ymwybodol ohono, am Christopher, yn drasig, ac mae gan y teulu gwestiynau difrifol sy'n dal i fod heb eu hateb am yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw ac rwy'n siŵr bod ein meddyliau ni i gyd gyda theulu a chyfeillion Christopher. Felly, mae'r cyfarfod yr wythnos nesaf, eto, yn ymwneud â chwrdd, siarad a chwalu'r rhwystrau.
Yn olaf, fe ddywedaf hefyd fy mod yn cefnogi gwelliant 3. Mae atal troseddau casineb yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru, a bydd yn parhau i fod yn nod allweddol wrth inni geisio datblygu a chyflawni newidiadau i'n system gyfiawnder er mwyn unioni'r problemau a nodwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: rydym ni o'r farn y dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli ac rydym ni'n falch bod y comisiwn wedi datgan yr achos hwn mor argyhoeddiadol.
Does dim lle i laesu dwylo. Mae'n rhaid inni estyn allan at y daioni mewn pobl. Mae'n rhaid inni rannu ymateb ar y cyd. Mae'n rhaid n ni groesawu'r ymatebion cadarnhaol gwych yr ydym wedi'u cael yn ein cymunedau dros yr wythnosau diwethaf o ran llifogydd. Adlewyrchir hyn yng Nghymru gan ei bod yn genedl noddfa, yn Gymru groesawgar, ac rwy'n ddiolchgar am dôn y ddadl heddiw. Diolch yn fawr.