Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o arwain y ddadl bwysig hon ar fynd i'r afael â throseddau casineb er mwyn amlinellu'r ymyriadau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith, yn ogystal â siarad yn erbyn casineb, sef neges bwerus ymgyrch Jo Cox. Ni allwn anwybyddu'r nifer uchel o naratifau rhwygol sydd yn y cyfryngau yn ogystal â mewn trafodaeth wleidyddol, yn y DU a ledled y byd, felly mae'n ddyletswydd arnom fel cynrychiolwyr etholedig i ddatgan yn bendant nad oes lle i gasineb yng Nghymru, a dyna beth y mae'r cynnig heddiw yn ei gynnig.
Wrth gwrs, mae atal yn allweddol i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ac felly'n ganolbwynt i lawer o'n gwaith. Mae ein rhaglen cydlyniant cymunedol yn rhan annatod o'n gwaith atal, gan gyflawni prosiectau sy'n canolbwyntio ar greu cenedl amrywiol ac unedig drwy feithrin amgylcheddau lle y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd, yn ogystal â byw a gweithio gyda'n gilydd yng Nghymru. Mae byw mewn cymunedau croesawgar lle mae pobl yn ddiogel o fudd i bawb. Gall arian y Llywodraeth helpu cymunedau i ffynnu ac ni ddylai fod angen ei wario ar fynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol sy'n deillio o gasineb.
Rydym wedi buddsoddi £1.52 miliwn o gyllid ychwanegol yn y rhaglen cydlyniant cymunedol i ehangu timau cydlyniant ledled Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf mae eu cyswllt rheng flaen â chymunedau, gan gynnwys cyflawni prosiectau i annog integreiddio, wedi bod yn hollbwysig o ran meithrin cysylltiadau da a chefnogi'r rhai y mae rhagfarn yn effeithio arnyn nhw. Rydym yn darparu £480,000 o gyllid dros ddwy flynedd trwy ein grant troseddau casineb cymunedau lleiafrifol, ac mae'r grant yn ariannu sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol y mae trosedd casineb yn effeithio arnyn nhw.
Roeddem wrthi'n dyfarnu'r cyllid ar adeg y ddadl ddiwethaf, felly fe wnaf i roi trosolwg byr o'r prosiectau sydd ar waith ledled Cymru bellach: Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru, sy'n darparu hyfforddiant troseddau casineb i staff a myfyrwyr ym mhob coleg addysg bellach yng Nghymru; Women Connect First, sy'n darparu hyfforddiant cyfiawnder adferol a sesiynau codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn y de-ddwyrain; BAWSO, sy'n hyfforddi eiriolwyr cymunedol yn y gogledd i helpu aelodau'r gymuned i adnabod digwyddiadau casineb ac annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau; mae Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru yn datblygu prosiect hyfforddi'r hyfforddwr yn ymwneud â throseddau casineb ar gyfer plant ysgol, athrawon a chynorthwywyr addysgu gyda staff iechyd rheng flaen a staff y sector cyhoeddus yn y de-orllewin a'r canolbarth; mae NWREN, rhwydwaith cydraddoldeb hiliol gogledd Cymru, yn darparu hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o droseddau casineb a deddfwriaeth cydraddoldeb i gyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol, uwch dimau arwain mewn ysgolion a staff addysgu ledled y gogledd a'r canolbarth; mae Race Equality First yn darparu gweithgareddau mewn ysgolion, a hyfforddiant achrededig, gan gynnwys sesiynau adsefydlu carcharorion ac allgymorth yn y gymuned ledled y de-ddwyrain; mae Race Council Cymru yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb trwy gymunedau lleiafrifoedd ethnig, ac yn hybu ymwybyddiaeth ehangach o hawliau a chydraddoldeb yn y gogledd a'r de-orllewin; ac mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn hyfforddi llysgenhadon troseddau casineb ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth o droseddau casineb ledled Cymru.
Mae'r prosiectau hyn yn eu camau cynnar, ond rydym eisoes wedi gweld cynnydd da. Trwy ddefnyddio cysylltiadau profiadol a sefydledig y sefydliadau hyn, gallwn weithio gyda phartneriaid ar lefel llawr gwlad cymunedau a darparu cymorth yn uniongyrchol i'r rhai sydd ei angen. Nod hirdymor ein prosiect troseddau casineb gwerth £350,000 mewn ysgolion—hynny yw £350,000 o gyllid—dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yw codi ymwybyddiaeth trwy addysg i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am gryfderau a manteision cyd-fyw a chyd-ddysgu mewn cymunedau amrywiol. Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn mwy na 100 o ysgolion ledled Cymru, a bydd yn rhoi sgiliau meddwl yn feirniadol i'r disgyblion i'w galluogi i adnabod gwybodaeth anghywir a naratifau atgas.
Rydym yn cydnabod bod hyrwyddo cyfathrebu cadarnhaol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o atal troseddau casineb, yn enwedig trwy atgyfnerthu'r neges nad oes croeso i gasineb yng Nghymru. Yr hydref hwn, rydym ar y ffordd i lansio ymgyrch aml-gyfrwng, Cymru gyfan i atal troseddau casineb, ac yn ymgysylltu â phartneriaid, gan gynnwys dioddefwyr. Mae hyn yn mynd rhagddo'n dda, ac mae gennym adborth da sy'n cefnogi'r broses o greu'r ymgyrch hon, sy'n annog pobl i adrodd am droseddau casineb ac yn cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o droseddau casineb.
Yn ychwanegol at y gwaith a nodais eisoes o weithio i gefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig, rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliad Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i ariannu cyfres o weithdai gyda rhwydweithiau lleol o oedolion ag anableddau dysgu ym mhob rhan o Gymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod troseddau casineb yn erbyn pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael eu camddeall yn aml ac nid ydynt yn cael eu hadrodd i raddau helaeth. Nod y gwaith hwn yw ceisio gwella ein gwybodaeth, gan ein galluogi i feithrin dealltwriaeth o faint a natur y math hwn o drosedd casineb, a'n helpu i nodi ffyrdd o fynd i'r afael ag ef. Yn aml, mae'r rhain yn lleisiau nad ydyn nhw'n cael eu clywed, ond rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cyfrannu at ddatblygiad yr ymgyrch sydd i ddod a'r polisi troseddau casineb yn y dyfodol.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wella negeseuon gwrth-gasineb. Fe wnaethom ariannu Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflwyno gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth yng Nghymru, ac roedd hyn yn cynnwys datblygu'r wefan Sefyll Gyda'n Gilydd a chymryd rhan yn y prosiect celfyddyd 75 o Fflamau Coffa sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd ar yr Aes yng Nghaerdydd. Rydym yn gweithio i ehangu cyrhaeddiad ymgyrch gyfathrebu Cymru agored a byd-eang, a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol y de-ddwyrain ac a arweinir gan Gyngor Caerdydd. Maen nhw'n datblygu ymgyrch cydlyniant cymunedol ac atal troseddau casineb, sy'n seiliedig ar y neges ein bod ni'n genedl groesawgar a byd-eang. Bydd ein buddsoddiad yn sicrhau bod yr ymgyrch yn weladwy ledled Cymru.
Daeth ein dadl ddiwethaf wythnos ar ôl cyhoeddi ystadegau troseddau casineb 2018-19 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r cynnydd yn y cofnodion o droseddau casineb yn adlewyrchu'r drafodaeth negyddol gynyddol yn y gymdeithas ehangach. Fodd bynnag, dylem hefyd gydnabod yr ymdrech yr ydym yn ei gwneud gyda'n partneriaid i annog dioddefwyr i roi gwybod am achosion o droseddau casineb.
Rydym yn ceisio atal troseddau casineb a mynd i'r afael â nhw, ac mae dioddefwyr yn ganolog i'n hymateb. Felly, y llynedd, fe wnes i gyhoeddi £360,000 o gyllid ychwanegol yn y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, sy'n cael ei rhedeg gan yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr Cymru. A bydd yr arian ychwanegol hwn, ar ben y cyllid blynyddol, yn cynyddu cymorth ac eiriolaeth y ganolfan i ddioddefwyr troseddau casineb.
Nid ydym yn dal yr holl ysgogiadau i fynd i'r afael â'r materion ehangach, ac rydym yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth o ran deddfwriaeth troseddau casineb yn y DU. Mae cyfreithiau troseddau casineb yn y DU wedi datblygu mewn sawl cam dros y degawdau diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at y sefyllfa lle nad yw'r pum nodwedd warchodedig mewn deddfwriaeth troseddau casineb—hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol ac anabledd—yn cael eu trin mewn ffordd gyson. Ac mae hyn yn fater y mae Comisiwn y Gyfraith yn archwilio iddo yn rhan o adolygiad i droseddau casineb yn y DU.
Hoffwn i gloi trwy ddweud bod mis Chwefror wedi bod yn wythnos hanes LGBT+, pan gawsom gyfle yma yn y Senedd i ddathlu cyfraniadau'r cymunedau LGBT+ i fywyd a diwylliant Cymru. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr troseddau casineb LGBT+, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i annog yr aelodau hynny o'n cymuned i adrodd am droseddau casineb.
Felly, rydym yn ddiolchgar i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth a'u harbenigedd yn y maes gwaith hwn. Diolch i'r timau cydlyniant cymunedol rhanbarthol sy'n chwarae rhan hollbwysig wrth weithio gyda llywodraeth leol, cymunedau a'r trydydd sector i feithrin cydlyniant. I gefnogi'r tri gwelliant a gyflwynwyd heddiw, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno bod hwn yn gyfle inni uno, cytuno a chefnogi ystod o waith sydd wedi ei wneud mewn cysylltiad â throseddau casineb. Mae'n dangos ein bod yn rhoi blaenoriaeth uchel barhaus i sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i adrodd, cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, a cheisio atal nifer yr achosion o droseddau casineb yn y dyfodol.