Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 3 Mawrth 2020.
Os gall yr Aelodau ddod i drefn, mae'r amser a neilltuwyd i'r gloch gael ei chanu i bobl ddod yn ôl i'r Siambr wedi mynd heibio, ac rydym yn symud nawr at y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2020-21, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 43, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.