Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Ac rwyf wedi ymateb i ohebiaeth gan yr Aelod i gydnabod pwysigrwydd y gymuned hon sy'n tyfu yng Nghymru. Rwyf wedi tynnu sylw, wrth gwrs—fel yr wyf i wedi ei grybwyll yn gynharach—at y grant cyfleusterau cymunedol, ond hefyd ceir cynllun grantiau bach Cymru o Blaid Affrica. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ein bod wedi darparu cyllid o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol i Race Council Cymru ar gyfer yr hyb diwylliannol a digidol hwnnw yn Theatr y Grand, Abertawe, sy'n cynnwys y gymdeithas Nigeraidd yn Abertawe, ynghyd ag oddeutu 20 o sefydliadau diwylliannol eraill, ac fe wnaethom ni gyfarfod â chyfarwyddwr y Gymdeithas Nigeraidd yng Nghymru, Mrs Patience Bentu, i drafod eu hanghenion ychwanegol.