Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 3 Mawrth 2020.
Mae cysylltiadau cymunedol yn hanfodol bwysig ac, wrth gwrs, rwyf yn ymwybodol o ymgysylltiad partneriaethau Tros Gynnal yn y materion hyn yn y gymuned. Rwyf yn ymwybodol iawn eu bod yn eirioli ar ran Teithwyr a Sipsiwn, ac yn cydnabod eu hanghenion o ran eu hamgylchiadau teithio, ac yn sicr mae hon yn adeg lle byddwn i'n dweud wrth yr Aelod fod angen i ni gydnabod ein cyfrifoldebau. Yn wir, rwy'n ymateb i ymgynghoriad ar hyn—cyfrifoldebau, anghenion a hawliau teithwyr, Sipsiwn a phobl Roma yng Nghymru. A byddwn yn dweud hefyd fod gennym ni ffordd bell i fynd o hyd gyda rhai o'n hawdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn cael safleoedd. Dyna'r pwynt hollbwysig—ein bod yn cael safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Teithwyr a'r gymuned Roma. Ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r grŵp trawsbleidiol yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod hyn.