Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 3 Mawrth 2020.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ofyn i chi: beth allwn ni ei wneud i gyfleu neges iechyd y cyhoedd yn uchel ac yn glir? Yn eich datganiad heddiw, rydych chi'n cyfeirio at wahanol sefydliadau, adrannau amrywiol, gwefan iechyd y cyhoedd. Wel, a bod yn blwmp ac yn blaen, dydw i ddim yn credu y bydd llawer o aelodau cyffredin y cyhoedd yn rhuthro i ymgynghori â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel cam cyntaf. Felly, tybed a ddylem ni ystyried y teledu neu'r radio, a hyrwyddo'r neges honno 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa' a'r negeseuon ynglŷn â golchi dwylo.
A allwch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi a'r Gweinidog Addysg wedi'i wneud o ran plant ysgolion cynradd ac uwchradd—oherwydd, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod y gall unrhyw haint o unrhyw fath ledu fel tân gwyllt o amgylch ysgolion—er mwyn cyfleu'r neges iddyn nhw? Oherwydd, rydym ni hefyd yn gwybod bod dylanwad pobl ifanc yn wych; byddan nhw, yn eu tro, yn mynd yn ôl ac yn dweud wrth rieni, ffrindiau a pherthnasau am y neges 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa', ac wrth gwrs y neges ynglŷn â golchi dwylo'n briodol ac yn gywir heb frysio, nid rhoi ambell fys yn sydyn o dan dap.
A allwch chi hefyd, efallai pan soniwch chi am ymgyrch wybodaeth iechyd y cyhoedd, dawelu meddyliau pobl ynghylch y feirws ei hun a pha mor hir y gall fyw? Gan fy mod i wedi cael pobl yn dweud wrthyf i, 'Rydw i wedi archebu rhywbeth gan gwmni manwerthu ar-lein mawr iawn'—na chrybwyllaf i mo'i enw—'oes feirws ar y pecyn am ei fod yn rhywbeth o Tsieina?' Neu, rwyf wedi cael busnesau'n codi pryderon am bethau y maen nhw'n eu mewnforio. Ble mae'r feirws? A yw'n un o'r rhain a all fyw am gyfnod estynedig o amser? Ni allaf ddeall hyn, ond unwaith eto mae'n ymwneud â hyrwyddo'r neges honno fel nad yw pobl yn dechrau poeni a meddwl ei bod hi'n ddiwedd y byd, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
Rydych chi'n sôn yn eich datganiad y gall pobl nawr ffonio rhif 111 y GIG. A gaf i fod yn hollol glir ynghylch hyn? Oherwydd, wrth gwrs, dim ond mewn rhai ardaloedd o Gymru yr oedd gwasanaeth 111 ar gael am gyfnod hir pan oedd yn cael ei dreialu a'i gyflwyno. A ydych chi nawr yn dweud, drwy Gymru gyfan, os oes unrhyw bryderon gan unrhyw un, y dylent ffonio 111 ac fe gânt eu cyfeirio i'r lle cywir, neu a oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r dewis arall a oedd yno yn y lle cyntaf?
A allwch chi hefyd roi gwybod inni, ledled y GIG a'r maes gofal cymdeithasol, pa wybodaeth sydd wedi'i hanfon at y llu o wahanol weithwyr, o lanhawyr i ymgynghorwyr? Oherwydd unwaith eto, rwyf wedi cael rhai pobl yn dweud eu bod yn gwybod beth i'w wneud, ac rwyf wedi cael pobl eraill yn dweud nad ydynt mewn gwirionedd wedi clywed llawer gan y sefydliadau sy'n eu cyflogi. Os oes gennych chi wybodaeth am hynny? Felly, mae a wnelo hynny i gyd â'r wybodaeth gyhoeddus.
Hoffwn droi fy sylw'n fyr iawn at ddeddfwriaeth. Tybed a wnewch chi roi mwy o fanylion inni am yr amserlen ar gyfer deddfwriaeth a chadarnhau'n gyhoeddus, a'i gofnodi, y byddai'r pwerau a fyddai'n cael eu rhoi ar y llyfr statud yn rhai ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol, a bod ganddyn nhw gylch gwaith penodol iawn? A allwch chi hefyd sicrhau'r Senedd, er ei bod hi'n ymddangos mai un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer y pedair gwlad yw'r hyn a ffefrir, y bydd materion datganoledig yn parhau i fod wedi'u datganoli, er mwyn i'r holl genhedloedd allu defnyddio'r ddeddfwriaeth er lles gorau eu gwledydd nhw? Efallai na fydd yn rhaid inni ddefnyddio llawer, oherwydd mewn gwirionedd, efallai er enghraifft, mai ychydig iawn o achosion fydd gennym ni.
A allwch chi roi unrhyw amserlenni deddfwriaethol? Sut y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gallu craffu ar Fil sy'n ymlwybro drwy San Steffan? Deallaf fod y manylion yn cael eu paratoi, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich bwriad i ganiatáu i ni—llefarwyr y gwrthbleidiau ac, fe gredaf, y pwyllgor—edrych ar hyn lle bynnag y bo'n bosib. A yw COBRA hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r wybodaeth ynghylch iechyd y cyhoedd y byddai'n rhaid ei chyflwyno gydag unrhyw ddeddfwriaeth, yn enwedig os yw hi'n cynnwys pethau fel y pŵer i gadw cleifion mewn man penodol, y pŵer i rwystro cleifion rhag gadael rhywle, y pŵer i atal teithio, i atal torfeydd cyhoeddus, i wneud unrhyw rai o'r pethau hyn? Oherwydd rydym ni'n byw mewn cymdeithas ryddfrydol iawn, ac mae'n bosib y bydd ein democratiaeth yn gweld yr union fesurau hynny yn dipyn o sioc, ac yn anodd eu derbyn.
Rwy'n ymddiheuro, Llywydd, mae hwn yn fater mor bwysig fel yr hoffwn i barhau am ychydig. Staff rheng flaen—a wnewch chi amlinellu beth sydd wedi ei wneud i ddiogelu staff rheng flaen y GIG a'r gwasanaethau brys os yw hyn yn parhau i ddatblygu? Hefyd, er ein bod ni'n profi pobl, a diolch byth y canfyddir nad yw'r haint arnyn nhw, tra yr ydym ni'n eu profi, nid ydym yn gwybod hynny eto. Byddem yn gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion pan fo hynny'n bosib—sylweddolaf na allwch chi wneud hynny heddiw efallai—ynghylch gallu'r maes gofal sylfaenol i ymdopi. Ac a fyddwch chi'n ystyried mesurau megis, er enghraifft, un o'r pethau sy'n fy nharo i mewn gwirionedd yw y dylem ni, efallai, fynnu bod pob meddygfa deulu yn brysbennu dros y ffôn, oherwydd, wrth gwrs, gallwn ddal i wneud apwyntiadau mewn nifer o feddygfeydd meddygon teulu ar-lein, a phan fyddwch chi'n gwneud apwyntiad ar-lein, allwch chi ddim dweud beth sydd efallai o'i le ar yr unigolyn yna. Felly, tybed a allwch chi ystyried hynny.
A wnewch chi ymhelaethu ar ateb y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid ar eitemau megis cofrestru gweithwyr iechyd proffesiynol, addasrwydd i ymarfer, costau indemniad, ac ati mewn argyfwng? A ydych chi'n rhoi unrhyw gyngor penodol i bobl sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n gorfod gweld eu meddygon teulu'n rheolaidd, sy'n gorfod casglu presgripsiynau'n rheolaidd neu gael profion gwaed? Mae'r rhain yn bobl sydd â chyflyrau cronig, megis clefyd siwgr, lle mae'n rhaid iddyn nhw fynd i weld y meddyg yn rheolaidd, ond a oes unrhyw ffordd o osgoi hynny, i'w cadw rhag niwed am gyhyd ag y bo modd? A allwch chi gadarnhau, yn Llywodraeth Cymru, a oes swyddog ym mhob portffolio sy'n arwain ar y mater hwn—er enghraifft, yn y portffolio busnes? Oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o bryderon gan yr holl gymunedau gwahanol a gynrychiolir gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet sy'n eistedd o amgylch y bwrdd gyda chi.
Yn olaf, hoffwn ddweud, a dweud y gwir, da iawn chi. Ni all neb gynllunio ar gyfer y gwaethaf drwy'r amser. Nid ydym eisiau bod yn cynnal y muriau trwy'r amser, naill ai fel Llywodraeth yn y fan yma, Llywodraeth y DU neu yn wir ym mha bynnag ran o'r GIG, ac mae'n anodd gweithredu pob un o'r mesurau hyn ar unwaith, felly rwy'n gwybod y bu rhai sylwadau anffafriol gan rai carfannau o gymdeithas yn dweud y dylem ni gael hyn llall ag arall, ond unwaith eto, dychwelaf at yr hyn a ddywedais, Llywydd, ar y cychwyn cyntaf—mai ofn yw'r pandemig gwaethaf. Credaf fod y Llywodraethau wedi ymddwyn mor gyfrifol a chyflym ag y gallant. Rwyf eisiau gweld deddfwriaeth a chraffu'n iawn arni i sicrhau ei bod yn addas i'w diben, ac rwy'n arbennig o awyddus, beth bynnag sy'n digwydd, ein bod yn ceisio amddiffyn staff rheng flaen ein GIG gymaint â phosib, oherwydd yn y pen draw nhw yw ein hamddiffyniad cyntaf, ac mae arnom ni angen iddyn nhw fod mor iach â phosib. Diolch yn fawr, Gweinidog.