4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf ar Coronafeirws (COVID-2019)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 3 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:26, 3 Mawrth 2020

Gaf innau ddiolch am y datganiad y prynhawn yma a diolch hefyd am y sesiynau briffio sydd wedi cael eu darparu i ni fel gwrthbleidiau, ddydd Sul ac yn gynharach heddiw? Dwi'n edrych ymlaen at weld y math yna o ddeialog yn parhau, achos dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod yr hyder yna yn y cyhoedd bod y camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn rhai cyfrifol i'w cymryd, ac mae sut mae hynny'n cael ei gyfathrebu efo ni a'r cyhoedd yn bwysig iawn, wrth reswm. Mi allwn i ofyn cannoedd o gwestiynau ichi y prynhawn yma, ond gwnaf i ddim. Dwi'n gwybod y cawn ni ddigon o gyfleoedd i ofyn y cwestiynau hynny, ond mae yna ambell i beth yn fy nharo i, a gwnaf i ddefnyddio'r cyfle yma i ofyn y rheini.

Yn gyntaf, cwestiwn a gafodd ei ofyn yn gynharach gan Adam Price, ac mae yna gyffwrdd wedi bod arno fo eto, sef y wybodaeth sy'n cael ei rannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a pha mor aml mae'r wybodaeth honno'n cael ei rhannu. Mi ddywedodd y Prif Weinidog, neu mi awgrymodd y Prif Weinidog bod data yn cael eu rhannu yn ddyddiol. Rydych chithau wedi awgrymu hynny: bod y wybodaeth yn cael ei rhannu am 3 o'r gloch bob prynhawn. Yn ôl yr hyn dwi'n ei deall ac yn ôl gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, er bod yna wybodaeth yn cael ei rhannu'n ddyddiol, dydy'r data ynglŷn â faint o brofion sydd wedi cael eu cymryd, p'un ai'n brofion negyddol neu bositif, ddim yn cael eu rhannu ond yn wythnosol. Tybed a allwch chi gadarnhau beth ydy'r sefyllfa a gofyn a wnaiff Iechyd Cyhoeddus Cymru sicrhau bod y data, yn ogystal â'r naratif dyddiol, fel petai, yn cael eu diweddaru o ddydd i ddydd, yn hytrach nag wythnos wrth wythnos?

O ran 111, dwi'n falch iawn bod hwnnw, rŵan, yn rif sy'n gallu cael ei gyrraedd ym mhle bynnag mae pobl yng Nghymru. A allwn ni gael syniad o'r adnoddau ychwanegol sydd wedi cael eu paratoi er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, rŵan? Ac fel cwestiwn ymylol, o bosib, ydy hyn yn ddechrau ar ddarparu 111 ym mhob rhan o Gymru—rhywbeth dwi'n gobeithio bydd yn digwydd? A ninnau ar ddiwrnod y gyllideb, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi ychydig o sylwadau ehangach ynglŷn â'r adnoddau ychwanegol yr ydych chi wedi eu sicrhau neu yr ydych chi'n ceisio eu sicrhau gan y Gweinidog Cyllid er mwyn sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa gryfaf posib fel gwlad i ymateb i COVID-19.

Gaf i ofyn hefyd: mae yna gynlluniau cychwynnol yn cael eu datblygu yn ôl dwi'n ei ddeall, i, o bosib, agor y drws i feddygon sydd wedi gadael y proffesiwn neu sydd wedi ymddeol i ddod yn ôl, pe bai yna bwysau ar weithlu'r gwasanaeth iechyd. Pa gyngor sydd yna i'r gweithwyr iechyd hynny sydd yn barod yn y sefyllfa anodd yma i wneud y gwaith ychwanegol i gefnogi'r cyhoedd o ran ein gwasanaeth iechyd? Pa gyngor sydd yna iddyn nhw ar sut y gallan nhw gofrestru ymlaen llaw, os liciwch chi, cyn i'r manylion gael eu cwblhau, fel ein bod ni'n gallu cryfhau'r gweithlu iechyd pe bai angen hynny?

Cwpwl o bwyntiau ar fater o egwyddor. Mi wnaethoch chi, yn gywir iawn, gondemnio'r rhagfarn a'r sylwadau hiliol sydd wedi cael eu clywed mewn cysylltiad ag ymlediad yr haint yma. A allwn ni ofyn i chi wneud sylw ehangach ynglŷn â'r angen i drin pobl sydd mewn self-isolation, os liciwch chi, efo urddas a pharch? Achos mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwybod pa fath o lefel o driniaeth y dylen nhw allu disgwyl ei gael gan y wladwriaeth, gan gymuned, a hwythau yn teimlo, wrth gwrs, mewn sefyllfa fregus iawn o fod wedi cael eu rhoi mewn self-isolation.

Mae wedi dod i'r amlwg hefyd bod Mako Vunipola bellach ddim yn mynd i fod yn gallu chwarae yn y gêm chwe gwlad rhwng Cymru a Lloegr y penwythnos yma oherwydd ei fod o wedi mynd i mewn i self-isolation. Tybed beth ydych chi'n—. Wel, yn gyntaf, pa fath o drafodaethau sydd yn digwydd efo cyrff fel Undeb Rygbi Cymru, a chlybiau pêl droed ac ati, o gwmpas digwyddiadau mawr fel hyn sy'n dod â phobl at ei gilydd? Ond yn fwy pwysig o bosib, beth mae'r ffaith bod Mako Vunipola wedi mynd i self-isolation, ac yntau ddim yn dangos arwyddion o'r haint, ond wedi bod mewn sefyllfa lle gall fod yna beryg—dwi'n deall ei fod o wedi hedfan drwy Hong Kong—beth mae hynny yn ei ddweud wrthym ni am yr angen i bobl fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallan nhw fod wedi cael eu heintio, ac i gymryd camau synhwyrol i'w diogelu eu hunain, ac eraill o'u cwmpas nhw, tra'n balansio hynny, wrth gwrs, efo'r angen, fel rydych chi'n ei ddweud, i bobl beidio mynd i ryw fath o gonsyrn mawr yn gyffredinol?

Ac yn olaf, eto'n cyfeirio at sylwadau a godwyd gan Adam Price yn gynharach heddiw yma, o ran y cyfrifoldeb ar gyflogwyr. Dwi wedi codi hyn efo chi o'r blaen fel Llywodraeth, yn gofyn i chi roi cyfarwyddyd clir o'ch disgwyliadau chi gan gyflogwyr cyfrifol yng Nghymru. Dydy deddfwriaeth cyflogaeth ddim wedi cael ei ddatganoli, ond dwi'n meddwl bod yna gyfeiriad neu ddisgwyliad a allai gael ei osod gan Lywodraeth Cymru o ran ymddygiad cyflogwyr. Mi allai cyflogwyr anghyfrifol, gweithleoedd lle mae disgwyl i bobl droi fyny i'r gwaith beth bynnag eu cyflwr iechyd nhw, fod yn peryglu iechyd pobl eraill. Felly, a fyddwch chi yn gwneud datganiadau rŵan, neu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ynglŷn â'ch disgwyliadau chi ynglŷn â'r angen i gyflogwyr, fel pawb arall o fewn y gymuned, gymryd y camau synhwyrol hynny sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn cael ei warchod?