Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 3 Mawrth 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio. Roeddwn i mewn cyfarfod briffio gyda Maes Awyr Caerdydd y bore 'ma, fel yr oedd ei gyd-Aelod, Russell George, ac roedd yn amlwg nad yw Maes Awyr Caerdydd yn cael unrhyw gymhorthdal refeniw. Mae benthyciadau wedi bod ar sail fasnachol gan Lywodraeth Cymru, swm bach iawn o arian, yn enwedig o gofio'r ffaith fod gan Faes Awyr Bryste fenthyciadau sy'n cyfateb i fwy na £500 miliwn.