Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 3 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch iawn o’r cyfle i allu cyfrannu jest ychydig o sylwadau cryno yn y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Dwi’n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor pob un o argymhellion y pwyllgor, a dwi’n arbennig o falch bod y Gweinidog wedi cytuno i ystyried sut y gallwn ni gynnwys nawr dadl ar y blaenoriaethau gwariant yn amserlen y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod. Dwi’n edrych ymlaen i weithio gyda’r Gweinidog ar hyn, a dwi'n meddwl y bydd e'n gyfle ardderchog i Aelodau i gael ychydig bach mwy o ddweud eu dweud ac ychydig bach mwy o ddylanwad yng nghyfnod ffurfiannol cynnar cyllidebau y dyfodol, yn hytrach nag ymateb i rywbeth sydd yn cael ei gyhoeddi ymhellach lawr y lein.
Yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, fe wnaeth y Siambr yma hefyd, wrth gwrs, gydnabod yr ansicrwydd ynghylch y cylch cyllidebol hwn, a bod y gyllideb wedi’i chyflwyno mewn amgylchiadau eithriadol, fel roedd y Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw yn ei sylwadau hi, o ystyried yr etholiad cyffredinol a Brexit. Mewn gwirionedd, rŷn ni’n dal i aros am gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac fe allai hynny, fel y clywsom ni, gael effeithiau sylweddol ar gyllid Llywodraeth Cymru.
Yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, fe wnaethon ni argymell y dylai’r Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y bydd cyllideb y Deyrnas Unedig yn ei chael ar Gymru cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl 11 Mawrth. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ni, ac wedi ymrwymo i ddarparu datganiad cynnar ar oblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig ar ragolygon treth a manylion am y symiau canlyniadol i Gymru.
Mae diffyg cyllideb y Deyrnas Unedig wedi golygu, wrth gwrs, bod rhagolygon treth Cymru yn seiliedig ar ragolygon economi a chyllidol y Deyrnas Unedig gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yr OBR, o fis Mawrth y llynedd, 2019, ond mae’n braf gweld bod y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael yng Nghymru a data alldro i ddiweddaru eu rhagolygon treth. Mae’r gyllideb derfynol hon yn dangos cynnydd net mewn refeniw arian parod a dyraniadau cyfalaf o £4 miliwn, sef 0.02 y cant.
Nawr, fe adawon ni’r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, ar 31 Ionawr, ond mae ansicrwydd o hyd ynghylch y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Fe ofynnon ni am sicrwydd ynghylch y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i’r diwydiant amaethyddol, ac mae ymateb y Gweinidog wedi nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cadarnhad o gyllid ar gyfer y cynllun taliad sylfaenol yn 2020, ond ni fydd gwybodaeth bellach ar gael tan ar ôl yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, yr rŷm ni’n ei ddisgwyl yn ddiweddarach eleni.
Er ein bod ni yma heddiw yn trafod y gyllideb derfynol yma, mae’n amlwg y bydd cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd ar y gweill, yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, a thrafodaethau ar y trefniadau cyllido yn dilyn Brexit i gyd yn cael effaith ar gyllideb 2020-21, ac felly mi fydd hi, mi fuaswn i'n tybio, yn addas ac yn ofynnol i ni ystyried ymhellach y newidiadau hynny maes o law, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni fel pwyllgor yn awyddus iawn i'w wneud. Diolch.