Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 3 Mawrth 2020.
Mae baich toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi disgyn yn bennaf ar lywodraeth leol ers dechrau cyni dros 10 mlynedd yn ôl. Bydd cyllid llywodraeth leol a dderbynnir oddi wrth Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb hon 13 y cant yn is nag yr oedd yn 2010, yn ôl tîm dadansoddi cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae pob un ohonom ni yma'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r toriadau hyn wedi'i chael ar y cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli.
Mae'r toriadau wedi bod mor ddifrifol fel bod yr hyn a elwir yn wasanaethau nad ydynt yn hanfodol—er ein bod yn gwybod nad ydynt felly o gwbl—wedi'u torri i'r asgwrn a chyllid ar gyfer gwasanaethau cyfannol gwirioneddol werthfawr, fel y rhai a ddarperir gan Ganolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd yng Nghaerffili, o dan fygythiad. Mae toriadau mewn cyllid hefyd wedi arwain at gau llyfrgelloedd, sydd wedi wynebu toriad o 38 y cant ers 2010, heb sôn am wasanaethau hamdden, sydd wedi cael toriad o 45 y cant, a thai'n cael toriad o 24 y cant. Nawr, efallai bod y niferoedd hynny'n ymddangos yn fychan, ond mae hynny wedi arwain at gau canolfannau pwysig ar raddfa eang o amgylch y wlad, fel y ganolfan hamdden ym Mhontllanfraith, ar adeg pan fo angen y gwasanaethau hynny a ddarparant yn fwy nag erioed.
Nawr, er bod y cynnydd o £184 miliwn a gynhwyswyd yng nghyllideb eleni yn gam i'r cyfeiriad cywir—nid oes neb ar y meinciau hyn yn mynd i wadu hynny—mae'n dal i fod £70 miliwn yn llai na'r £254 miliwn a ddywedodd CLlLC y mae awdurdodau lleol ei angen dim ond i gadw pethau fel y maen nhw. Gan nad yw Plaid Cymru yn credu y gall neu y dylai llywodraeth leol wynebu'r diffyg hwn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y setliad heddiw.
Gwyddom i gyd y bydd cynghorau'n ceisio llenwi'r bwlch hwn drwy gynyddu'r dreth gyngor. Mae'n rhywbeth y cyfeiriwyd ato eisoes. Gwyddom hefyd mai'r dreth gyngor yw un o'r mathau mwyaf atchweliadol o drethiant sydd gennym, gan fod y rhai lleiaf cefnog yn talu cyfran uwch o'u hincwm o'i gymharu â threthi eraill, ac felly mae hwn yn faich a fydd yn disgyn ar y rhai lleiaf abl i'w fforddio.
Nid yw toriadau i lywodraeth leol yn gwneud fawr o synnwyr wrth ystyried lles ein heconomi a lles y bobl y mae i fod i'w gwasanaethu. Soniais yn gynharach mai gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol, fel y'u gelwir, yw'r rhai cyntaf i fynd. Yn aml iawn, nhw yw'r glud sy'n dal realiti cymhleth bywydau pobl at ei gilydd ac maen nhw'n atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Er enghraifft, mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod gwasanaethau cyhoeddus yn arbed arian pan fo digartrefedd yn cael ei atal neu ei liniaru'n gyflym, o'i gymharu â gadael iddo ddigwydd, ond eto mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i atal digartrefedd yn dod o lywodraeth leol ac mae rhai awdurdodau lleol wedi ystyried lleihau eu cyllidebau, a fydd ond yn arwain at wario mwy o arian yn gyffredinol ar ganlyniadau digartrefedd, ac nid yw hynny'n gwneud synnwyr i neb.
Nododd adroddiad y Swyddfa Archwilio ar y system gynllunio fod toriadau mawr i ddatblygiadau cynllunio yn arwain at lofnodi cytundebau adran 106 annigonol. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cael y symiau o dai fforddiadwy y dylem eu cael, y cyfleusterau cymunedau y dylem eu cael, neu'r cyfraniadau addysgol y dylem eu cael. Yn yr un modd, mae gofal cymdeithasol da yn hanfodol i sicrhau bod y GIG yn rhedeg yn esmwyth ac mae gwasanaethau tai ac amgylcheddol da hefyd yn hanfodol i atal pobl rhag gorfod defnyddio'r GIG yn y lle cyntaf. Nid yw'n gwneud dim synnwyr i dorri arian ar gyfer gwasanaethau ataliol gan ei fod yn ychwanegu at y baich ariannol y bydd yn rhaid i'r GIG ei ysgwyddo yn y pen draw. A gwyddom i gyd fod osgoi problemau'n llawer, llawer rhatach nag y mae i'w trin, pan fyddant yn mynd mor wael yn y pen draw fel bod rhaid cael triniaeth ddrud.
Mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei adlewyrchu gan yr hyn y bu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn awyddus i'w bwysleisio. Dywedodd fod:
'darparu gwasanaethau ataliol,' ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma,
'addysg, chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, llecynnau awyr agored o safon a gwasanaethau cefnogi cymunedol...yn chwarae rhan bwysig mewn atal pobl rhag mynd yn sâl neu ddatblygu problemau cymdeithasol mwy hirdymor.'
Mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi tynnu sylw at y £100 miliwn o'r cyllid adnoddau cyllidol sydd heb ei neilltuo yn y gyllideb hon. Pe bai tua thri chwarter o'r arian hwn yn cael ei roi i lywodraeth leol, yna byddai'n cyfateb i'r swm a ddywedodd CLlLC y mae awdurdodau lleol ei angen i gynnal y ddarpariaeth gwasanaeth bresennol, a fyddai'n caniatáu i ni ystyried cefnogi'r setliad cyllido.
Mae'n hen bryd inni gael dulliau strategol tymor hir o bennu cyllidebau gan Lywodraeth Cymru, a dyna pam y byddai Plaid Cymru yn rhoi lles wrth galon ein cyllidebau, os mai ni fydd yn gwneud y penderfyniadau hyn yn y dyfodol.
Felly, i gloi, Llywydd—